4 lleiniau datblygu
Parc Dyfaty, Porth Tywyn, Llanelli, Sir Caerfyrddin

Long term Leasehold

Manylion Allweddol

Mae'r 4 llain yn amrywio rhwng 1.30 erw a 3.73 erw o ran maint. Mae gan bob llain fynediad i garthffosydd dŵr brwnt a dŵr wyneb, trydan a'r prif gyflenwad dŵr ar ffin neu ger ffin pob llain.

Rhif y Llain Maint ha Maint erw
2 1.510 3.73
3 0.603 1.49
4 0.526 1.3
5 0.708 1.75

Mae'r safleoedd ar gael ar wahân er y rhoddir ystyriaeth i werthu dwy lain gyda'i gilydd.

Mae stribed wedi ei dirweddu lle mae coed yn tyfu ar hyd y ddwy ochr i'r brif ffordd neu'r rhodfa drwy'r ystad. Bydd perchenogaeth ar y tir blaen hwn sydd wedi ei dirweddu yn cael ei throsglwyddo i'r prynwyr, ond bydd y Cyngor yn cael mynediad i'r tir hwnnw er mwyn ei gynnal a'i gadw. Bydd cost cynnal a chadw'r nodwedd hon yn cael ei hadennill drwy godi tâl gwasanaeth ar berchennog y llain, gan bennu'r swm yn unol â chyfran y tir a ddelir mewn perthynas â chyfanswm maint yr ystad. Hefyd bydd y tâl gwasanaeth yn cynnwys costau'r Cyngor o ran rheoli'r llecynnau cyffredin a rennir.

Cynllunio

Mae gan Ystad Ddiwydiannol Parc Dyfaty ganiatâd cynllunio ar gyfer Dosbarthiadau B1 (Busnes), B2(Diwydiannol Cyffredinol) a B8 (Storio a Dosbarthu) yn unol â Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd 1987 (fel y'i diwygiwyd). Nid yw hyn yn cynnwys gwaith adwerthu a chownter masnachu.

Defnydd Cymwys

Yn ogystal â bodloni'r gofynion cynllunio ynghylch defnyddio'r tir, mae meini prawf eraill yn berthnasol sef meini prawf sy'n ddibynnol ar gyllid grant. Yn gyffredinol mae'r amodau o ran cyllid grant yn mynnu bod y safleoedd yn cael eu defnyddio ar gyfer gweithgynhyrchu neu ddibenion sy'n ychwanegu gwerth. Gofynnir i bawb sy'n holi ynghylch y safleoedd roi eu manylion yn llawn er mwyn cadarnhau eu bod yn gymwys. Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i werthu'r safleoedd drwy dendro cystadleuol os bydd dau neu ragor o ymgeiswyr yn dymuno prynu'r un llain.

Y Ddeiliadaeth

Prydles hir am 999 o flynyddoedd. Gwerthir y safleoedd yn unol â Chytundeb Adeiladu sy'n mynnu bod y canlynol yn digwydd:

  1. Talu 10% o'r swm pan gwblheir y Cytundeb.
  2. Cwblhau'r datblygiad o fewn 12 mis i ddyddiad gwneud y Cytundeb.
  3. Talu gweddill y swm o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad cwblhau ymarferol.
  4. Trosglwyddo'r Brydles Hir.