Tir yn Halfway, Llanelli
Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 8SB
Offers invited
- 01267 242379
- ADWilliams@sirgar.gov.uk
gynnig
Manylion Allweddol
Disgrifiad
Mae'r safle i'r dwyrain o Havard Road, Llanelli ac i'r de o Ysgol Sant Ioan Llwyd. Mae'r safle oddeutu 1.025 hectar (2.5 erw) ac yn elwa ar fod yn agos at amwynderau lleol, o fewn 1.2 milltir i Barc Adwerthu Trostre a 5 milltir o goridor yr M4.
Sylwer fod y safle yn gysylltiedig â defnydd yn ymwneud â hen waith glo.
Gwasanaethau
Cynghorir pob un sydd â diddordeb yn y lle i wneud eu hymholiadau eu hunain gyda'r ymgymerwyr statudol ynghylch capasiti, addasrwydd ac argaeledd gwasanaethau.
Gwybodaeth am y gwerthiant
- Deiliadaeth – Rhydd-ddaliad â meddiant gwag
- Tir i'w werthu ag ymyl coch ar y cynllun (Rhif Teitl CYM598689)
- Mae'n rhaid gosod clustogfa ar hyd ffin ogleddol y safle ger yr ysgol.
- Bydd gwerthiant y tir yn destun cymal 'adfachu' o 30% ar gyfer datblygiad preswyl.
- Rhoddir mynediad ar hyd y tir sydd wedi'i liwio'n felyn.
- Dylai'r prynwr gyfrannu cyfran deg tuag at gynnal a chadw'r ffordd fynediad.