‘Actif Unrhyw Le' i blant
Ymgeisydd y prosiect: Cymunedau Actif
Teitl y prosiect: ‘Actif Unrhyw Le' i blant yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin
Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig
Lleoliad: Sir Gâr
Nod y prosiect yw cynyddu faint o weithgarwch corfforol y mae plant yn cymryd rhan ynddo y tu allan i wersi addysg gorfforol cwricwlaidd, yng nghymunedau lleoliadau addysg yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddealltwriaeth ac ymgynghori i gynllunio pecyn cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob lleoliad unigol.
Bydd y pecyn cymorth yn hyblyg gan dibynnu ar anghenion y lleoliad, ond bydd yn cynnwys sesiynau gweithgarwch corfforol a llesiant wedi'u ffrydio'n fyw, sesiynau gweithgarwch corfforol wyneb yn wyneb ac uwchsgilio a chymorth i wirfoddolwyr / staff.