Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Ramblers Cymru
Teitl y prosiect: Datblygu adnodd gwirfoddolwyr i arolygu, rheoli a chynnal hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin
Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig
Lleoliad: Sir Gâr
Gan weithio mewn partneriaeth â Ramblers Cymru, bydd y prosiect hwn yn recriwtio, hyfforddi, paratoi a threfnu adnodd gwirfoddolwyr i helpu i arolygu, cynnal a rheoli hawliau tramwy cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin.
Gan feddu ar becyn cymorth sylfaenol, bydd y gwirfoddolwyr yn cofnodi gwybodaeth ar blatfform digidol ac yn gallu ymgymryd â mân waith cynnal a chadw i sicrhau mynediad i bawb.