Tŷ Te Trimsaran
Ymgeisydd y prosiect: Tetrim Teas Cymru
Teitl y prosiect: Tŷ Te Trimsaran
Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig
Lleoliad: Trimsaran
Bydd y prosiect hwn yn cefnogi datblygiad Tŷ Te Trim yn Nhrimsaran, gan greu swyddi newydd i bobl leol a darparu budd cymdeithasol drwy hwyluso clybiau te wythnosol ar gyfer y gymuned wledig.
Mae'r te ei hun yn cael ei gymysgu yn y gegin gymunedol leol gyda'r nod o ddatblygu cadwyn gyflenwi leol a sefydlu canolfan de iechyd a llesiant yn y pentref, sy'n gysylltiedig â gweithgareddau tyfu allgymorth.