Rhaglen Hyfforddi Hyrwyddwyr Cymorth Cynaliadwyedd
Ymgeisydd y prosiect: Canolfan Un Blaned
Teitl y prosiect: Rhaglen Hyfforddi Hyrwyddwyr Cymorth Cynaliadwyedd
Rhaglen Angor: Cronfa Arloesi Gwledig
Lleoliad: Llanymddyfri
Mae Canolfan Un Blaned, sydd wedi'i lleoli yn Llanymddyfri, yn cynnig gwasanaeth ymgynghori, offer a hyfforddiant i gynorthwyo unigolion a sefydliadau i fod yn fwy cynaliadwy mewn modd mesuradwy.
Nod y prosiect yw hyfforddi graddedigion lleol i fod yn arbenigwyr o ran helpu sefydliadau i drawsnewid yn esiamplau ecolegol gynaliadwy, gan arwain at gyrraedd Safon Un Blaned o bosibl.