Rhaglen Gymunedol Arloesi Twf Glân
Prosiect Ymgeisydd: Prifysgol Abertawe
Teitl y Prosiect: Rhaglen Gymunedol Arloesi Twf Glân
Blaenoriaeth Buddsoddi: Cefnogi Busnesau Lleol
Location: Sir Gaerfyrddin
Bydd y rhaglen Twf Glân yn cefnogi busnesau a sefydliadau'r trydydd sector ledled Sir Gaerfyrddin i wella eu sgiliau arloesi a'u gwybodaeth Economi Gylchol i'w helpu i leihau costau a lleihau eu hôl troed carbon. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan dîm profiadol CEIC Cymru, sydd wedi cefnogi 81 o sefydliadau i leihau eu hôl troed carbon a datblygu sgiliau arloesi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bydd y rhaglen Twf Glân yn ffurfio'r rhaglen Cymunedau Ymarfer i helpu busnesau i ddatblygu sgiliau arloesi mewn gweithdai cydweithredol a thrwy ymweliadau safle, setiau dysgu gweithredol a chymorth arbenigol. Bydd pob cyfranogwr yn datblygu Cynllun Twf Glân a all helpu i ddiogelu eu busnes yn y dyfodol a chynyddu elw. Bydd cyfranogwyr yn ymuno ag 'ecosystem Economi Gylchol' a fydd yn gwella eu cysylltiadau â rhanddeiliaid o ddiwydiant, y byd academaidd a'r sector cyhoeddus i'w helpu i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.
Mae'r Economi Gylchol yn cyfeirio at fodel economaidd sy'n ceisio lleihau effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol yr economi 'cymryd-gwneud-gwaredu' gyfredol. Bydd dealltwriaeth lawnach o egwyddorion Economi Gylchol yn galluogi busnesau i ailgynllunio eu cynhyrchion a'u gwasanaethau, datgarboneiddio eu gweithrediadau, a gwella'r amgylchedd naturiol.
Prosiectau Strategol/Arunigol y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Hwb Menter Busnes
Hybu yr Economi Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Gwaith Paratoi Ffibr Prototeip NappiCycle
Gofod Masnachu - Cefnogi Busnesau Lleol Castell Newydd Emlyn
Arloesedd Net Sero
Caru Sir Gâr
Academi Lletygarwch
Sgiliau 24
Herio
Prosiect Darganfod: Datgelu Trigolion Cudd yn Sir Gaerfyrddin
Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Technolegau Werdd yn Sir Gaerfyrddin
Gwyrddu Sir Gar
Mwy ynghylch Busnes