Nodau strategol ar gyfer cefnogi twf twristiaeth yn Sir Gâr
Dros y 18 mis nesaf byddwn yn canolbwyntio ar y prif feysydd allweddol:
Tymhorol – tyfu ein tymor twristiaeth traddodiadol o 8 mis i 12 mis llawn.
Crwydro a Gwario - annog ymwelwyr mewn modd cadarnhaol i grwydro'r holl ardaloedd, nid dim ond y rhai adnabyddus neu hawdd dod o hyd iddynt. Pan fyddant yma, gadewch i ni sicrhau eu bod yn prynu'n lleol ym mhob ardal boed yn lluniaeth, yn anrhegion, yn fwyd cŵn neu'n sanau!
Ansawdd – Mae ansawdd gwasanaethau, profiadau a chynhyrchion i gyd yn cyfrannu at gynyddu gwariant lleol a theyrngarwch brand.
Adnoddau ar gyfer eich busnes
Llyfrgell Asedau
Ar ôl ceisiadau gan y sector busnesau, rydym yn creu llyfrgell ddigidol hawdd ei defnyddio ac am ddim, a fydd, am y tro cyntaf, yn cynnwys y cyfan mewn un lle fel delweddau, cynnwys fideo a graffeg y gellir eu defnyddio yn eich marchnata eich hun. Bydd yr holl "asedau" hyn yn cefnogi'r gwerthoedd brand "pobl go iawn, llefydd go iawn" sydd wedi'u datblygu i sefydlu'r Sir ar ôl pandemig.
Tudalennau Gwe
Bydd pob tref wledig ledled y sir yn cael sylw ar y wefan swyddogol i ymwelwyr â'r Sir www.darganfodsirgar.com sy'n cael ei gweld 34,000 o weithiau bob mis ac sy'n cael ei chefnogi gan ymgyrch farchnata lawn i sicrhau ei bod yn parhau i gael ei gweld. Comisiynwyd fideos a ffotograffau hyrwyddo newydd gyda chyflwynwyr yn amlinellu'r cyfleoedd gwario eilaidd ym mhob tref.
Cael sylw yn y cyfryngau Cenedlaethol a Rhyngwladol
Gan ddefnyddio ein cysylltiadau â'r cyfryngau a busnesau fel chi yn y Sir, rydym yn cyrraedd darllenwyr papurau newydd a chylchgronau ledled y DU drwy ddarparu straeon, delweddau a syniadau addas iddynt, gan gynnig llety i newyddiadurwyr sy'n ymweld pan fo angen.
Mae gennym hanes rhagorol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf gydag ymweliadau ac erthyglau gwerth dros £2filiwn yn cyrraedd dros 100 miliwn o bobl ar draws nifer o gyhoeddiadau gan gynnwys y Times (cylchrediad o 440,000), Guardian (110,000), The Sun (1.4m), Countryfile, Belle a hyd yn oed cylchgrawn ffasiwn Elle.
theguardian.com/carmarthenshire-west-wales-llandeilo-laugharne-ferrytown