Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag adolygiad o dair Ardal Gadwraeth yng Nghaerfyrddin: Gogledd Caerfyrddin, Stryd y Dŵr, a Stryd Dewi Sant a Stryd Parcmaen.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cynnal adolygiadau o arwyddocâd i lywio cynigion ar gyfer Asesiadau Ardaloedd Cadwraeth a Chynlluniau Rheoli wedi’u diweddaru ar gyfer Gogledd Caerfyrddin a Stryd y Dŵr, ynghyd â chynnig i ystyried dad-ddynodi Ardal Gadwraeth Stryd Dewi Sant a Stryd Parcmaen.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhan o ddyletswydd statudol y Cyngor i adolygu Ardaloedd Cadwraeth ac mae’n ceisio barn y gymuned cyn i unrhyw newidiadau gael eu datblygu, eu cymeradwyo neu eu mabwysiadu.
Dogfennau ategol
Asesiad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Stryd y Dŵr
Asesiad Ardal Gadwraeth a Chynllun Rheoli Gogledd Caerfyrddin
Cynnig ar gyfer Dad-ddynodi Ardal Gadwraeth Stryd Dewi Sant a Stryd Parcmaen
