Adolygiad Cymunedol - Ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf
Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2025
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal Adolygiad Cymunedol o ardaloedd Cyngor Cymuned Llanboidy a Hendy-gwyn ar Daf, yn benodol y pwynt ffin lle mae safle Abaty Hendy-gwyn ar Daf wedi'i leoli.
Cam cyntaf yr adolygiad yw gofyn i bob parti â diddordeb ystyried y ffiniau cymunedol presennol a chyflwyno'u sylwadau ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i greu cymunedau sy'n darparu ar gyfer llywodraethu lleol effeithiol a chyfleus.
Yna bydd yr holl gyflwyniadau yn cael eu hystyried, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Cynnig Drafft a bydd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion hynny. Yna bydd yr holl gyflwyniadau'n cael eu hystyried, a bydd yr Argymhellion Terfynol yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru.
Os yw Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn credu ei fod yn briodol, bydd yn cynnig bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud Gorchymyn i roi effaith i'r argymhellion naill ai fel y'u cyflwynwyd neu gydag addasiadau.
Mae'r ail cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Llun 14 Ebrill 2025 ac yn dod i ben ddydd Llun 26 Mai 2025.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, anfonwch eich sylwadau drwy e-bost at: gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Mae'r tabl yn nodi'r amserlen ar gyfer yr adolygiad:
Cam | Cam Gweithredu | Dyddiadau |
Adrodd i Rag-gyfarfod y Cabinet Y Cyngor Llawn |
Mae'r Cyngor yn cymeradwyo egwyddor yr Adolygiad Cymunedol a'i Gylch Gorchwyl. |
2 Rhagfyr 2024 11 Rhagfyr 2024 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus 1 |
Cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn dechrau drwy gyhoeddi Cylch Gorchwyl yr Adolygiad. |
16 Rhagfyr2024 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben | Archwilir ac ystyrir pob sylw. | 27 Ionawr 2025 |
Ystyried cyflwyniadau / sylwadau a pharatoi adroddiad ar gyfer y cyngor llawn | Argymhellion drafft i'w hystyried gan y Cyngor a'u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori pellach. |
Rhag-gyfarfod y Cabinet - 31 Mawrth 2025 Cyngor Llawn - 9 Ebrill 2025 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus 2 |
1. Ymgynghoriad chwe wythnos gyda Rhanddeiliaid ar yr argymhellion drafft 2. Paratoi argymhellion terfynol. |
14 Ebrill 2025 |
Ymgynghoriad Cyhoeddus yn dod i ben. | Archwilir ac ystyrir pob sylw. | 26 Mai 2025 |
Ystyried cyflwyniadau / sylwadau a pharatoi adroddiad terfynol ar gyfer y cyngor llawn | Y Cyngor i ystyried argymhellion terfynol. |
Rhag-gyfarfod y Cabinet - 30 Mehefin 2025 Cyngor Llawn - 9 Gorffennaf 2025 |
Gorchymyn yn dod i rym | Etholiadau llywodraeth leol nesaf. | Mai 2027 |