Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-2023
Cyflwyniad gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin
Gair o groeso gan Arweinydd y Cyngor i'n Hadroddiad Blynyddol am 2022-2023
Unwaith eto, mae'n bryd cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a chymryd ysbaid i fyfyrio ar ddigwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf. Yn fy nghyflwyniad y llynedd ysgrifennais am y modd yr oeddem wedi symud o'r pandemig i argyfwng costau byw ac wrth i mi ysgrifennu hyn, rydym yn dal i fod yng nghanol yr argyfwng hwnnw. Gallwn weld rhai arwyddion o adferiad, ond yn sicr mae'n gyfnod anodd i lawer. Ymateb i'r argyfwng hwnnw sydd wedi bod flaenaf dros y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf ond rydym hefyd wedi gweithio'n galed i gyflawni rhai pethau pwysig ac i wella ein hunain lle'r oedd angen gwneud hynny.
Roeddem yn gwybod ddechrau'r flwyddyn y byddai angen i ni weithredu'n bendant i ymateb i'r Argyfwng Costau Byw a gwnaethom sicrhau bod yna ymgynghorwyr yn ein canolfannau HWB i roi cyngor am gyllidebu a budd-daliadau. Rhyddhawyd £180,000 o'r Gronfa Dlodi ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i ddarparu Mannau Croeso Cynnes, gwnaethom agor ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llanelli, a Rhydaman fel mannau cynnes yn ogystal â chefnogi partneriaid o'r trydydd sector i ddarparu cefnogaeth yn y gymuned. Rydym yn parhau i gefnogi ein trigolion, ac i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y mater hwn rydym wedi sefydlu panel ymgynghorol trawsbleidiol ar fynd i'r afael â thlodi i adrodd i'r Cabinet yn rheolaidd.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae rhai o'n prosiectau blaenllaw wedi dwyn ffrwyth. Mae cam cyntaf Pentre Awel ar y gweill, a bydd y prosiect gofal iechyd, hamdden ac ymchwil hwn sydd werth dros £200 miliwn yn helpu i ehangu'r ddealltwriaeth o'r hyn ydyw byw'n dda. Bydd Pentre Awel yn gartref i sefydliadau gwyddoniaeth mawr a busnesau bach newydd, i gyd yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion a cholegau a'r bwrdd iechyd i wella bywyd. Bydd canolfan cyflawni ac ymchwil clinigol yn galluogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ehangu ei ddarpariaeth ymchwil a pheirianneg feddygol a bydd canolfan addysg a hyfforddiant yn canolbwyntio ar hyfforddiant iechyd a gofal, gyda'r cyrsiau'n amrywio o lefel mynediad i ôl-raddedig, gan roi myfyrwyr mewn lleoliad clinigol a chanolbwyntio ar feysydd lle mae prinder sgiliau.
Rydym wedi parhau gyda'n Rhaglen Moderneiddio Addysg ac wedi agor dwy ysgol newydd yng Nghydweli a Gorslas. Rydym hefyd wedi cynyddu ein darpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i Bob Disgybl i Feithrinfeydd, Dosbarth Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 ac rydym ar y trywydd iawn i gyflwyno hyn i bob disgybl cynradd erbyn mis Ebrill 2024, a ddylai helpu teuluoedd sy'n profi effeithiau'r Argyfwng Costau Byw.
Ym mis Mawrth gwnaethom agor Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn, a chefais y pleser o fod yn bresennol yn yr agoriad swyddogol. Mae gan Bentywyn hanes unigryw o ran record cyflymder y byd dros dir yn ogystal â bod yn un o'r darnau mwyaf prydferth o draeth yn y wlad. Mae'r prosiect yn cynnwys y 'Caban' - llety sydd wedi'i adeiladu gan ddefnyddio technolegau adeiladu cynaliadwy.
Cafodd ein hymrwymiad i ehangu ein gweithlu gofal cymdeithasol hwb yr haf diwethaf pryd y gwnaethom lansio'r Academi Gofal newydd sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous i'r rheiny sy'n awyddus i gael gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol. Mae hyn yn darparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad, ac yn galluogi ymgeiswyr i ennill cyflog wrth ddysgu a dewis llwybr gyrfa sydd fwyaf addas iddynt.
Rydym wedi datblygu ystod o gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, sy'n bwysig, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach mewn cydweithrediad â'n partneriaid lleol a Llywodraeth Cymru.
Fel y dywedais yn fy nghyflwyniad y llynedd, rydym yn parhau i dyfu er gwaethaf yr heriau, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny eto eleni. Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau a swyddogion y Cyngor hwn wrth i ni geisio gwneud cynnydd pellach mewn ystod o feysydd a gwella bywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Cyflwyniad i'n Hadroddiad Blynyddol
Ym mis Mai 2022 etholwyd gweinyddiaeth newydd, ac amlinellodd y Cabinet Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027. Felly, aethom ati i adolygu ein Strategaeth Gorfforaethol a'n Hamcanion Llesiant. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin gyda'n partneriaid yn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gwnaethom gynnal asesiad llesiant cynhwysfawr i nodi materion allweddol. Fel rhan o'r gwaith o baratoi'r asesiad a'r cynllun llesiant cynhaliom gyfres o ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori i ofyn am adborth, yn ogystal ag ymgynghori â thrigolion, busnesau, staff ac Undebau Llafur ynglŷn â pherfformiad y Cyngor yn ystod 2022.
Gwnaethom ystyried yr adborth hwn wrth i ni adnewyddu ein Strategaeth Gorfforaethol a gosod ein Hamcanion Llesiant newydd, a chytunwyd i ddiwygio ein 13 o Amcanion Llesiant blaenorol yn set fwy cryno o amcanion ar lefel poblogaeth. Canlyniad hyn oedd i'r Strategaeth Gorfforaethol newydd fabwysiadu 4 Amcan Llesiant. Gweler Atodiad 1 am ragor o wybodaeth am sut y cafodd ein Strategaeth Gorfforaethol newydd a'n Hamcanion Llesiant eu llunio.
Drwy gydol 2022/23 buom yn monitro'r modd yr oedd y 13 o Amcanion Llesiant blaenorol yn cael eu cyflawni ar ein System Monitro Gwybodaeth Perfformiad (PIMS). Wedi i'n Strategaeth Gorfforaethol newydd a'n 4 Amcan Llesiant gael eu cymeradwyo, symudom y camau gweithredu a'r targedau a osodwyd ar gyfer y 13 o Amcanion Llesiant i'r 4 Amcan Llesiant newydd. Gallwn adrodd ar y cynnydd a wneir yng nghyswllt y ddwy set o amcanion llesiant yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, bydd pwyslais yr Adroddiad Blynyddol hwn ar yr Amcanion Llesiant newydd.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn seiliedig ar yr Amcanion Llesiant newydd ar gyfer 2022/23
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gynhyrchu gan y Cyngor oherwydd rydym yn credu y dylem ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr a chytbwys i'r cyhoedd am ein gwasanaethau, er mwyn iddynt allu gweld sut yr ydym yn perfformio a'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Hefyd mae'n ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 (Gweler Atodiad 2a).
Mae'r adroddiad blynyddol hwn a'r hunanasesiad yn mynd i'r afael â dwy ddyletswydd gyfreithiol:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
Mae ein Hymagwedd at hunanasesu drwy ein Hamcanion Llesiant
Mae defnyddio amcanion llesiant i fframio'r hunanasesiad yn galluogi'r Cyngor i integreiddio gofynion adrodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn un adroddiad.
Mae'r ymagwedd hon yn rhoi'r cyd-destun yr ydym yn arfer ein swyddogaethau ynddo, yn defnyddio adnoddau, ac yn sicrhau bod llywodraethu'n effeithiol:
- Mae'n sicrhau bod yr hunanasesiad yn strategol, gan ganolbwyntio ar y sefydliad, yn hytrach na gwasanaethau unigol ac i ba raddau y mae'r Cyngor yn cyflawni ei amcanion llesiant a'i ganlyniadau bwriadedig.
- Mae'n caniatáu inni fyfyrio ar lefel strategol ar sut mae ein holl swyddogaethau (gan gynnwys gweithgareddau corfforaethol) yn cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, sut rydym yn gweithredu a pha gamau y mae angen i ni eu cymryd i wella ymhellach a pharhau i ddarparu gwasanaethau effeithiol nawr ac yn y tymor hir.
- Mae defnyddio amcanion llesiant fel y fframwaith cyffredinol yn annog golwg fwy cyfannol ar berfformiad y Cyngor, gan gydnabod bod llawer o wasanaethau'n 'cydlynu' ac yn cyfrannu at un neu ragor o amcanion llesiant.
- Rydym yn parhau i reoli perfformiad gwasanaethau unigol drwy Gynlluniau Cyflawni Is-adrannol.
Rheoli Perfformiad yng Nghyngor Sir Gâr
Mae ein Fframwaith Rheoli Perfformiad yn seiliedig ar gylch Cynllunio/Gwneud/Adolygu, ac rydym wedi ei gryfhau i wella hunanasesu. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach i adlewyrchu disgwyliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chanllawiau statudol.
Llywodraethu
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin (yr Awdurdod) yn gyfrifol am sicrhau yr ymgymerir â'i waith yn unol â'r gyfraith a safonau priodol. Rhaid iddo sicrhau hefyd y diogelir cyllid cyhoeddus, y rhoddir cyfrif priodol amdano ac y’i defnyddir yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol a sicrhau gwelliant parhaus yn hyn o beth.
Mae'r Awdurdod yn gyfrifol am sefydlu trefniadau priodol ar gyfer Llywodraethu ei waith, gan hwyluso cyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol, gan gynnwys bod â threfniadau priodol ar gyfer rheoli risg.
Mae'r Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel "gwneud y pethau iawn, yn y ffordd iawn, i'r bobl iawn mewn modd amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol.” Mae’r Fframwaith Llywodraethu yn cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliannau a’r gwerthoedd hynny sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli’r Awdurdod ynghyd â’r modd y mae'n atebol i’r gymuned, yn ymgysylltu â hi ac yn ei harwain. Mae’r Fframwaith yn galluogi'r Awdurdod i fonitro i ba raddau y cyflawnwyd ei amcanion strategol ac i ystyried a yw’r amcanion hynny wedi arwain at gyflenwi gwasanaethau priodol a chost-effeithiol.
Rydym wedi parhau gyda'n hymagwedd newydd tuag at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Yn ogystal ag edrych ar ba drefniadau oedd ar waith ar gyfer 2022/23 gwnaethom ystyried pa mor dda y mae'r trefniadau hyn yn mynd, sut ydyn ni'n gwybod a sut y gallwn wella? Gweler Atodiad 5
Sut rydym yn mesur llwyddiant ein Hamcanion Llesiant
Mesur Cynnydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn hyrwyddo newid mewn ffocws o gynhyrchiant gwasanaethau, i bob corff cyhoeddus yn cydweithio i ddatblygu canlyniadau sy'n gwella ansawdd bywyd dinasyddion a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol.
Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar ystod o ddata a thystiolaeth i greu darlun mor gynhwysfawr â phosibl o'n cynnydd o ran tueddiadau dros amser ac o ran y modd yr ydym yn cymharu ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.
Er mwyn i ni wneud hyn yn effeithiol, rydym wedi datblygu cyfres ddata o ddangosyddion a mesurau sy'n dwyn ynghyd ystod eang o wahanol ffynonellau, gan ein galluogi i fyfyrio ar y dystiolaeth sydd ar gael i ni yn gyffredinol. Mae'r data yn cwmpasu'r canlynol:
Dangosyddion Poblogaeth: Yn bennaf mae'r rhain yn cynnwys data sydd ar gael i'r cyhoedd ac a nodwyd i ddatblygu dealltwriaeth o dueddiadau a sefyllfa Sir Gaerfyrddin mewn perthynas ag awdurdodau lleol eraill Cymru. Mae'r ffynonellau'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i); Arolwg Cenedlaethol Cymru, Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Mesurau Perfformiad: Cynnwys ffurflenni statudol, mesurau mewnol y Cyngor a gwybodaeth sylfaenol ar ffurf canfyddiadau ymgynghori yr ydym yn eu defnyddio i fesur a monitro perfformiad yn rheolaidd. Cyfrifoldeb uniongyrchol y Cyngor yw'r rhain.
Gwybodaeth Sylfaenol – Canfyddiadau Ymgynghori
Yn dilyn yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2022, aethom ati i ddeall sut yr oedd trigolion, staff y Cyngor, busnesau ac Undebau Llafur yn teimlo am berfformiad y Cyngor. Er bod hyn yn bodloni'r rhwymedigaethau statudol a osodwyd arnom drwy'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, roedd hefyd yn gyfle i gael barn (gan drigolion a busnesau yn bennaf) ar nifer o faterion polisi allweddol ehangach megis: yr argyfyngau hinsawdd a natur, tlodi, addysg, diogelwch cymunedol, yr iaith Gymraeg ac iechyd meddwl a llesiant.
Mae'r wybodaeth sylfaenol hon wedi bod yn amhrisiadwy, a phan gaiff ei hystyried yn rhan o gyfres ehangach o fesurau bydd yn ddangosydd pwysig o'n perfformiad, gyda chanlyniadau 2022 yn gweithredu fel llinell sylfaen er mwyn monitro perfformiad yn y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn arwydd o'n hymrwymiad i gyflawni ein hamcanion llesiant gyda thrigolion, defnyddwyr gwasanaeth, ein cymuned fusnes a staff sydd yn flaenllaw ym mhopeth a wnawn.
Yn yr adroddiad hwn drwyddo draw caiff canfyddiadau'r ymgynghoriad eu dangos ar ffurf sgôr mynegai cyfartalog (AIS). Mae'r sgôr hwn yn gyfartaledd wedi'i bwysoli a bydd yn caniatáu cymhariaeth hwylus rhwng canlyniadau o flwyddyn i flwyddyn. Darperir allwedd isod i gyfeirio ati a cheir mwy o wybodaeth am y modd y caiff sgoriau mynegai cyfartalog eu cyfrifo yn Atodiad 6.
Allwedd Sgôr Mynegai Cyfartalog:
• Mae sgôr o dan 1 yn dangos anghytundeb cyffredinol;
• Mae sgôr rhwng 0 ac 1 yn dangos cytundeb cyffredinol, ac
• Mae sgôr rhwng 1 a 2 yn dangos cytundeb cryf cyffredinol.
Canlyniad Rheoleiddio
Yn ystod y flwyddyn cyhoeddodd ein rheoleiddwyr nifer o adroddiadau, a chaiff y rhain eu rhestru yn Atodiad 3
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn edrych ar ystod eang o dystiolaeth i wneud hunanasesiad o'r modd yr ydym yn perfformio.
Amcan Llesiant 1
Galluogi ein plant a’n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau’n Dda)
Dyfarniad Cyffredinol
Rydym yn ceisio cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Byddwn yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod ac yn uchel ein parch yn lleol, yn ogystal ag ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
Mae'r gwasanaethau plant yn parhau i gyflwyno arferion gwaith (Signs of Safety a dull seiliedig ar berthynas) sy'n ymgysylltu ac yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i helpu i wella canlyniadau i blant. Er mwyn sicrhau hyn, mae uwch-reolwyr yn archwilio asesiadau ac yn tynnu sylw at unrhyw feysydd i'w gwella ac arferion da.
Ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn ehangu fesul cam ar draws y sir. Mae'r ap Dechrau'n Deg wedi bod yn rhan annatod o gyrraedd teuluoedd, gan ddarparu negeseuon allweddol a gwasanaethau cymorth.
Rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaethau maethu a mabwysiadu i ddiwallu anghenion plant sy'n dod i mewn i ofal ac sydd angen sefydlogrwydd yn gynnar.
Ar hyd a lled y sir roedd rhyw 15,000 o blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ar eu hennill o fynd i'r mentrau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles.
Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd y Cynnig Gofal Plant wedi cael ei gyflwyno a'i hyrwyddo'n barhaus. Rydym yn gweithio tuag at fynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn ein pumed Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (2022-27) a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig ac rydym yn parhau i hyrwyddo a datblygu gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y Sir.
Pam y mae hyn yn bwysig?
Mae rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bob plentyn yn hanfodol er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd yn ystod cwrs bywyd. Mae'r sylfeini ar gyfer bron pob agwedd ar ddatblygiad dynol – corfforol, deallusol ac emosiynol – yn cael eu gosod yn ystod plentyndod cynnar.
Mae'r hyn sy'n digwydd yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn, gan ddechrau yn y groth, yn cael effaith gydol oes ar sawl agwedd ar iechyd a llesiant - o ordewdra, clefyd y galon ac iechyd meddwl i gyflawniad addysgol a statws economaidd.
I gael effaith ar anghydraddoldebau iechyd, mae angen inni fynd i'r afael â graddiant cymdeithasol mewn mynediad plant i brofiadau cynnar cadarnhaol. Mae ymyriadau diweddarach, er eu bod yn bwysig, yn llawer llai effeithiol os nad yw'r plentyn wedi cael sylfeini da ym more ei oes.
Fair Society, Healthy Lives, the Marmot Review, 2010
Amcan Llesiant 2
Galluogi ein trigolion i fyw a heneiddio’n dda (Byw a Heneiddio’n Dda)
Dyfarniad Cyffredinol
Credir bod ychydig dros draean o aelwydydd Sir Gaerfyrddin yn byw mewn tlodi, sefyllfa a fydd yn debygol o waethygu oherwydd yr argyfwng costau byw. Mewn ymateb i hyn, mae'r Cyngor wedi datblygu dull cryfach a mwy integredig o gefnogi trigolion.
Yn dilyn y pandemig, rydym wedi gweld mwy o alw am yr holl wasanaethau gofal cymdeithasol, a wnaed yn fwy heriol oherwydd cymhlethdod cynyddol achosion; fodd bynnag, rydym wedi parhau i arloesi, datblygu a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed. Rydym hefyd yn glir ynghylch blaenoriaethau a gwelliannau i wasanaethau yn y dyfodol.
Rydym wedi darparu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ers 2019/20 i gydnabod bod y cyflenwad ychwanegol o gartrefi yn ein cymunedau gwledig a threfol yn allweddol i alluogi cydnerthedd a chydlyniant cymunedol.
Pam y mae hyn yn bwysig?
Rydym am alluogi ein trigolion i fyw ac heneiddio'n dda a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni:
- Fynd i'r afael â thlodi a lleihau ei effaith niweidiol.
- Helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth gartref cyhyd ag y bo modd.
- Sicrhau tai fforddiadwy o ansawdd da.
Amcan Llesiant 3
Gwneud ein cymunedau a’n hamgylchedd yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)
Dyfarniad cyffredinol
Rydym am alluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus.
- Mae arwyddion cadarnhaol yn dod i'r amlwg o'r economi leol, ond mae rhai heriau'n parhau.
- Er bod gennym heriau amgylcheddol sylweddol i'w datrys, gwnaed cynnydd cynnar sylweddol a bydd gwaith arloesol i ddatblygu llwybrau carbon yn ein cynorthwyo i dargedu gweithgarwch i gyrraedd y targedau lleihau carbon mwy heriol.
- Rydym wedi gwneud gwelliant sylweddol i ailgylchu gwastraff o ganlyniad i newidiadau i'r gwasanaeth.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Mae darparu swyddi diogel sy'n talu'n dda i bobl leol yn hanfodol ac mae cynyddu cyflogadwyedd yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau. Mae hyn yn cael effaith ddramatig ar ein hiechyd a'n gallu i weithredu mewn cymdeithas bob dydd.
- Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfradd anweithgarwch economaidd uchel. Mae hyn yn rhwystr sylweddol i dwf yn Sir Gaerfyrddin, gan fod y rheiny sy'n anweithgar yn economaidd yn ffynhonnell sylweddol o gyflenwad llafur sy'n elfen hanfodol o farchnad lafur sy'n gweithredu'n dda. Mae hyn hefyd yn peri pryder o ystyried y gall bod yn anweithgar am gyfnod hir effeithio'n negyddol ar lesiant, iechyd a boddhad bywyd unigolyn.
- Un rhwystr i gyflogaeth i lawer yw diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae hyn yn berthnasol i'r rheiny nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl a'r rheiny sy'n dymuno ailsgilio neu uwchsgilio i wella eu hunain a cheisio gwaith ar lefel uwch neu waith arall. Mae hwn yn fater perthnasol i Sir Gaerfyrddin, gan fod gan y Sir nifer uwch na'r cyfartaledd o bobl heb unrhyw gymwysterau a chyfran is na'r cyfartaledd o bobl â chymwysterau lefel uwch.
- Mae ardaloedd o'r Sir yn agored i effeithiau negyddol yr argyfwng hinsawdd, llifogydd yn enwedig. Mae ychydig dros 15,000 o eiddo yn y Sir ar hyn o bryd ar ryw lefel o berygl llifogydd. Bydd newid yn yr hinsawdd yn cynyddu nifer yr eiddo, y seilwaith a'r gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd. Bydd mannau nad ydynt yn cael llifogydd ar hyn o bryd yn wynebu perygl o lifogydd a bydd y rheiny y gwyddom eu bod eisoes mewn perygl yn gweld lefel y risg honno'n cynyddu.
- Mae'r Sir yn parhau i fod yn gadarnle strategol allweddol ar gyfer dyfodol y Gymraeg a chydnabyddir manteision cymdeithasol ac economaidd dwyieithrwydd yn eang. Mae tystiolaeth a gasglwyd drwy'r arolwg trigolion yn dangos bod yr ymatebwyr at ei gilydd yn cytuno ei bod yn bwysig bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a'i gwarchod.
- Mae cludiant a phriffyrdd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi a chynnal ein cymunedau, mae'n darparu'r seilwaith hanfodol sy'n cysylltu pobl â'i gilydd, yn dod â chymunedau ynghyd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu.
Amcan Llesiant 4
Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)
Dyfarniad cyffredinol
Ym mis Mawrth 2023, lansiodd y Cyngor yn ffurfiol ei ddull newydd o drawsnewid trwy fabwysiadu ei Strategaeth Drawsnewid gyntaf. Bydd y Strategaeth yn darparu’r fframwaith strategol a fydd yn tanategu’r gwaith o weithredu rhaglen sylweddol o newid a thrawsnewid ar draws y sefydliad dros y 5 mlynedd nesaf. Prif ffocws y rhaglen hon fydd cyflymu ymhellach y broses o foderneiddio ar draws y Cyngor, a’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau cost-effeithiol o ansawdd uchel yng nghyd-destun amgylchedd allanol heriol.
Sefydlwyd wyth ffrwd waith i ddatblygu’r blaenoriaethau allweddol a amlinellir yn y Strategaeth Drawsnewid ac mae cynnydd da eisoes yn cael ei wneud wrth weithredu’r rhaglenni gwaith hyn.
Pam y mae hyn yn bwysig?
- Ym mis Mawrth 2020 aethom i mewn i un o’r cyfnodau mwyaf heriol a wynebwyd erioed gan lywodraeth leol gyda’r pandemig COVID-19. Wrth ddod allan o’r argyfwng roedd yna sylweddoliad ‘na fyddai pethau byth yn union yr peth’ ac na fyddem yn yr un sefydliad ag yr oeddem.
- Roeddem felly am fanteisio ar yr hyn a ddysgwyd yn sgil ein hymateb i’r pandemig; beth weithiodd yn dda/beth na weithiodd mor dda, a sut y gallai hyn o bosibl newid ‘yr hyn yr ydym yn ei wneud’ a ‘sut yr ydym yn ei wneud’ yn y dyfodol.
- Mae hyn yn gyfle nawr i ailosod neu fynd yn ôl i'r pethau syml wrth ddefnyddio rhai egwyddorion craidd sy'n sail i'r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
- Mae’r canfyddiadau o ymgynghoriad staff yn 2022 yn dynodi bod y mwyafrif helaeth o ymatebwyr yn teimlo’n falch o’r modd y gwnaethom ymateb fel sefydliad i’r pandemig. Yn ychwanegol, mae’r mwyafrif yn teimlo’n barod i symud ymlaen a gweithio mewn byd ôl-COVID. Gan mwyaf, cytunai’r staff eu bod wedi cael eu harwain yn dda yn ystod y pandemig; fodd bynnag cytunai cyfran is eu bod yn teimlo iddynt gael eu gwerthfawrogi am y cyfraniadau a wnaethant yn ystod yr amser hwn.
Galluogwyr Busnes Craidd
Yn ogystal â'r blaenoriaethau thematig a'r blaenoriaethau gwasanaeth a nodwyd, ceir amrywiaeth o alluogwyr busnes craidd sy'n hanfodol i'n galluogi i wneud cynnydd yn erbyn ein hamcanion llesiant. Mae'r galluogwyr busnes craidd:
- 5a Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)
- 5b Marchnata a’r Cyfryngau gan gynnwys gwasanaethau cwsmeriaid
- 5c Cyfreithiol
- 5d Cynllunio
- 5e Cyllid
- 5f Caffael
- 5g Archwilio Mewnol
- 5h Rheoli Pobl (Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu, Iechyd Galwedigaethol)
- 5i Gwasanaethau Democrataidd
- 5j Polisi a Pherfformiad
- 5k Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil
- 5l Ystadau a Rheoli Asedau
- 5m Rheoli Risgiau
- 5n Cymorth Busnes
Ar gyfer cynnydd a data ar y galluogwyr busnes craidd hyn gweler -
Atodiadau
- 1 Sut cafodd ein Hamcanion Llesiant eu clustnodi
- 2a Gofynion Statudol
- 2b Sut mae ein Hamcanion Llesiant yn cyfrannu at y Nodau Llesiant Cenedlaethol
- 3 Adroddiadau Rheoleiddiol 2022/23
- 4 Asesu Perfformiad
- 5 Datganiad Llywodraethu Blynyddol - Camau Gweithredu
- 5b Cwynion
- 6 Cyfrifo Cyfartaledd Mynegai Sgôr (AIS)
- 7 Beth a sut y gallwn wneud meysydd gwell/Dynodedig ar gyfer Gwella
- 8 Dangosyddion Poblogaeth a Thabl Safle Mesurau Perfformiad