Peidiwch ag addo i'r plentyn neu oedolyn y byddwch yn cadw'r mater yn gyfrinachol.
Cofnodwch (yng ngeiriau'r person).
Gofynnwch am gyngor pellach gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'ch gwasanaethau cymdeithasol os oes angen.
Esboniwch wrth y rhieni/unigolyn/gofalwr/teulu eich bod yn atgyfeirio'ch pryder ac yn cael caniatâd i wneud hynny, oni bai eich bod yn credu y byddwch trwy wneud hynny yn rhoi'r plentyn neu'r oedolyn mewn mwy o berygl o niwed.