Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant
- Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Llywodraethu
Ar lefel gorfforaethol, caiff y cyfrifoldeb am fonitro effeithiolrwydd trefniadau diogelu ar draws y Cyngor ei ddirprwyo i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol.
Mae gan bob Pennaeth Gwasanaeth rôl ddiogelu a bydd yna Bennaeth Diogelu arweiniol ar gyfer pob cyfarwyddiaeth a fydd yn mynd i gyfarfodydd y grŵp diogelu corfforaethol. Bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau diogelu statudol strategol trwy Arweinwyr Diogelu Dynodedig ym mhob un o Gyfarwyddiaethau'r Cyngor. Yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, mae pob Pennaeth Gwasanaeth yn ymgymryd â rôl yr Arweinydd Diogelu Dynodedig.
Bydd yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn cynrychioli eu Cyfarwyddiaeth ar y Grŵp Diogelu Corfforaethol ac yn gweithredu fel cyfrwng ar gyfer lledaenu gwybodaeth ddiogelu i'r Grŵp Diogelu Corfforaethol ac oddi wrtho.
Mae gan y Grŵp Diogelu Corfforaethol gyfrifoldebau adrodd i'r Tîm Rheoli Corfforaethol, y Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cabinet.
Y Grŵp Diogelu Corfforaethol (Llywodraethu Diogel)
Mae'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn darparu trefn 'Llywodraethu Diogel' a, thrwy raglen waith y cytunwyd arni, wedi'i datblygu a'i monitro gan ei grwpiau cyflawni diogelu corfforaethol cysylltiedig, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos, yn ceisio sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol. Bydd yn sicrhau bod gan bob maes gwasanaeth drefniadau diogelu cadarn ar waith sy'n cael eu harchwilio a'u monitro'n rheolaidd.
Bydd sylwadau'r Cabinet, y Pwyllgor Craffu, Archwilio Mewnol a rheoleiddwyr ac archwilwyr allanol yn llywio blaenoriaethau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol ac yn dylanwadu arnynt. O dan Gylch Gorchwyl y Grŵp Diogelu Corfforaethol, mae Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn 'gyfrifol am gael gwybodaeth a chamau gweithredu gan eu meysydd gwasanaeth a'u lledaenu yn ôl iddynt; byddant yn atebol am gwblhau camau gweithredu a thasgau a briodolir i'w maes gwasanaeth’.
Bydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn nodi newidiadau mewn themâu a'r dysgu a strategaethau a weithredir i fynd i'r afael â'r newidiadau hynny, yn tynnu sylw at berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio â'r Polisi Diogelu Corfforaethol, ac yn cynnwys archwiliad o berfformiad diogelu pob maes gwasanaeth.’ Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy'r Tîm Rheoli Corfforaethol.
Bydd Cadeirydd y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rhoi gwybod i Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am unrhyw faterion brys sy'n codi neu themâu sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn berthnasol i'r rhanbarth ac ar draws asiantaethau.
Bydd aelodau'r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn cynnwys y swyddogion canlynol-
- Cadeirydd - Cyfarwyddwr Cymunedau (Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol)
- Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol (Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)
- Dirprwy Brif Weithredwr - Rheoli Pobl a Pherfformiad
- Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant
- Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
- Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion
- Rheolwr Gwasanaeth Amddiffyn Plant (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
- Uwch-reolwr Amddiffyn Oedolion (Swyddog Dynodedig yr Awdurdod Lleol)
- Arweinwyr Diogelu Dynodedig y Gyfarwyddiaeth
- Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Partneriaethau Diogel
- Cadeirydd Grŵp Cyflawni - Gweithlu a Gweithle Diogel
- Cadeirydd y Grŵp Cyflawni - Ymarfer a Pherfformiad Diogel
Bydd cymorth busnes dynodedig yn cael ei ddarparu. Bydd Swyddogion eraill yn cael eu cyfethol yn ôl yr angen a chytunir arnynt gan y grŵp.
Bydd aelodau’r Grŵp Diogelu Corfforaethol yn chwarae rôl weithredol wrth sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. Bydd pob aelod o’r grŵp yn hyrwyddo diogelu o fewn ei gyfarwyddiaeth a’r sefydliad ehangach. Byddant yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau diogelu corfforaethol a sicrhau lefelau uchel o gydymffurfiaeth.
Bydd gan bob aelod o’r grŵp fynediad brys at Gyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu’r Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol os oes angen.
Caiff y Grŵp Diogelu Corfforaethol ei gefnogi gan dri Grŵp Cyflawni, pob un â’i feysydd ffocws allweddol ei hun. Bydd y grwpiau cyflawni yn cwrdd bob chwarter a byddant yn adrodd wrth y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn rheolaidd. Cadeirydd y grwpiau fydd uwch-swyddog a fydd yn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth a’r cynlluniau gweithredu a’r mesurau perfformiad cysylltiedig yn cael eu goruchwylio’n gadarn. Rhestrir rhai o’r prif feysydd ffocws isod:
Grŵp Cyflawni Gweithle/Gweithlu Diogel
- Diogelu fel cyfrifoldeb ar bawb.
- Recriwtio diogel
- Dadansoddi anghenion hyfforddi
- Darparu Hyfforddiant
- Polisïau'r Gweithlu a'r Gweithle
- Polisi/gwiriadau'r DBS
- Contractau Allanol/Gwirfoddolwyr
- Rolau a chyfrifoldebau
- Codi ymwybyddiaeth/cyfathrebu.
- Rhoi gwybod am gam-drin ac esgeuluso
Grŵp Cyflawni Arferion Diogel a Pherfformiad
- Polisïau Diogelu
- Mesurau perfformiad
- Archwiliadau/arolygiad
- Adolygu a Monitro
- Ymgorffori Dysgu ar y Cyd
- Rhannu gwybodaeth
- Camau gwella/Arferion da
- Ymyrraeth Gynnar/Atal
- Llais y Plentyn/Oedolyn/gwneud diogelu'n bersonol.
- Eiriolaeth
- Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth/adborth
- Cyfathrebu
Grŵp Cyflawni Partneriaethau Diogel
- Cysylltu â Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
- Cysylltu â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
- Cysylltu â'r Bwrdd Strategol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Cysylltu â phartneriaid statudol
- Cysylltu â'r Bartneriaeth Diogelwch
- Cymunedol/Bwrdd Contest
- Polisïau a Gweithdrefnau Amlasiantaeth
- Hyfforddiant Amlasiantaeth
- Archwiliadau Amlasiantaeth
- Perfformiad ac Adolygiadau Amlasiantaeth
Byrddau Diogelu Rhanbarthol
Yn ogystal, mae gan y Cyngor rôl fel Partner Arweiniol ac aelod o Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. (CYSUR a CWMPAS). Mae'r Bwrdd yn bartneriaeth statudol amlasiantaeth sy'n gweithio i amddiffyn a diogelu oedolion a phlant. Mae'n gyfrifol am:
Amddiffyn plant sy'n cael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall, neu y mae perygl y bydd hynny'n digwydd iddynt, ac atal plant rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso, neu eu niweidio mewn rhyw ffordd arall.- Amddiffyn oedolion sydd ag anghenion am ofal a chymorth (p'un a yw'r awdurdod lleol yn diwallu unrhyw un o'r anghenion hynny), ac sy'n cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso neu sydd mewn perygl o fod hynny'n digwydd iddynt. Atal yr oedolion hynny rhag bod mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Mae gan y Bwrdd ddyletswydd statudol i ddatblygu Cynllun Blynyddol ar sail ranbarthol ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol dros herio asiantaethau perthnasol mewn perthynas â'r mesurau sydd ar waith i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.
CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Child and Youth Safeguarding; Unifying the Region'. Mae CYSUR yn gyfuniad o'r hen Fyrddau Diogelu Plant Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru. Dyma air Cymraeg sydd hefyd yn Saesneg yn acronym ar gyfer 'Collaborative Working and Maintaining Partnership in Adult Safeguarding'. Mae CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Gyda'i gilydd caiff CYSUR a CWMPAS eu hadnabod fel Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Grŵp Gweithredol Lleol Sir Gaerfyrddin (LOG)
Mae'r Grŵp Gweithredol Lleol yn adrodd wrth Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru a dyma'r corff amlasiantaeth gweithredol ar gyfer diogelu oedolion a phlant yn Sir Gaerfyrddin.
Mae aelodau'r Grŵp Gweithredol Lleol yn cynnwys rheolwyr ac ymarferwyr ym maes Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a'r Sector Gwirfoddol.
Rhan o gylch gwaith y Grŵp Gweithredol Lleol yw cydweithio i sicrhau bod trefniadau diogelu ar y cyd yn gweithredu'n effeithiol yn Sir Gaerfyrddin.
Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl y Pwyllgor Craffu yw adolygu a chraffu ar benderfyniadau a gwneud adroddiadau neu argymhellion mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r Cyngor, boed hynny gan y Cabinet neu ran arall o'r Cyngor.
Bydd y pwyllgor craffu yn rhoi her adeiladol i'r Cyngor ynghylch ei weithgarwch diogelu mewn modd diduedd ac annibynnol.