Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd eraill (ESOL)

Mae yna ddosbarthiadau i'ch helpu os oes gennych rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl, a dosbarthiadau i'ch helpu os ydych am wella'ch Saesneg i astudio.

  • Dechreuwyr (cyn-mynediad a Mynediad 1) os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl.
  • Mynediad 2/3 - os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg ac yn awyddus i ddysgu mwy.
  • Mynediad 3/Lefel 1 - gwella eich sgiliau Saesneg Iaith.

Os ydych yn ddysgwr newydd neu os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 235413, anfonwch e-bost neu llenwch ein Ffurflen Ymholiad.

Ffurflen Ymholiad

 

Gellir cynnal dosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda'r nos, ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.

Dyddiadau Tymor 2024/25 Dechrau Hanner Tymor Diwedd
Hydref 2024 02 Medi 28 Hydref - 01 Tachwedd 22 Rhagfyr
Gwanwyn 2025 06 Ionawr 24 Chwefror - 28 Chwefror 11 Ebrill
Haf 2025 28 Ebrill 26 Mai - 30 Mai 21 Gorffennaf

 

Mae dosbarthiadau ESOL am ddim drwy gyllid Llywodraeth Cymru os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu £200 fesul tymor.

Darperir rhai cyrsiau mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.