Canolfan Eto

Mae Eto yn brosiect cyffrous sy'n ceisio helpu pawb yn Sir Gaerfyrddin I fod yn fwy cynaliadwy, i gwtogi ar eu gwastraff ac i roi bywyd o'r newydd i eitemau nad oes dim o'i le arnynt. Mae ailddefnyddio yn ffordd wych o arbed yr ynni a ddefnyddir wrth wneud cynhyrchion newydd, gan helpu i leihau eich ôl troed carbon a gwneud eich rhan i ddiogelu'r amgylchedd.

Gallwch ddod o hyd i drysorau ail-law a rhai wedi'u huwchgylchu yn ein siop yn Nantycaws neu yn ein digwyddiadau yn eich cymuned.

Rydym wedi sefydlu'r prosiect hwn i helpu i greu economi gylchol yn Sir Gaerfyrddin, gan gadw eitemau mewn defnydd am fwy o amser a'r holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.

Ariennir prosiect Eto gan strategaeth Tu Hwnt i Ailgylchu Llywodraeth Cymru sy'n ceisio lleihau gwastraff a chreu economi gylchol yng Nghymru.

Ewch i un o'n canolfannau ailgylchu i roi eich eitemau i Eto.  Rydym yn derbyn ystod eang o eitemau gan gynnwys rhai trydanol, dodrefn, paent, beiciau, paent, offer gardd a llawer mwy.

Canolfan Eto

Rydym hefyd yn cydweithio â grwpiau cymunedol eraill sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac economi gylchol.

  • Cetma
  • Pethau Pawb Emlyn
  • Pethau Pawb Llanymddyfri
  • Sero