Tipio anghyfreithlon
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2025
Mae tipio anghyfreithlon yn dramgwydd droseddol, ac os cewch eich dal, gallech wynebu dirwy o hyd at £50,000 neu gyfnod yn y carchar.
Mae'n cynnwys unrhyw beth o wastraff cyffredinol o'r aelwyd, er enghraifft, oergelloedd, soffas, matresi, gwastraff o'r ardd. Yn ogystal â wastraff masnachol a diwydiannol, er enghraifft, pridd, gwastraff clinigol, rwbel, teiars.
Os oes angen i chi waredu unrhyw eitemau mawr megis oergell, rhewgell, cwpwrdd dillad neu beiriant golchi, rydym yn cynnig casgliad gwastraff swmpus. Byddwn yn casglu hyd at dri eitem am £26.
Os ydych yn gweld rhywun yn tipio'n anghyfreithlon, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib.