Mae'r rhan fwyaf o'r cyllid ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru yn dod o Lywodraeth Cymru drwy grantiau cyfalaf a refeniw. Mae cynlluniau lliniaru llifogydd yn cael eu comisiynu a'u rheoli ar sail prosiect unigol. Mae prosiectau'n symud drwy nifer o gamau gan gynnwys dichonoldeb ac asesu mecanweithiau a hanes llifogydd, asesu opsiynau lliniaru gyda gwerthusiad rhestr hir a rhestr fer, dewis opsiwn a ffefrir a dyluniad manwl, hyd at adeiladu a gweithredu ar lawr gwlad. Gall gwaith ar raddfa fach gael ei gyflawni mewn cyfnod o 12 mis, ac mae cynlluniau ar raddfa fwy fel arfer yn cymryd 3-5 mlynedd i'w cwblhau.

Mae llwyddiant cynyddol o ran denu cyllid grant wedi galluogi datblygu ac ehangu Rhaglen Gwaith Cyfalaf FCERM yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 roedd 13 cynllun mawr ar waith, a fyddai, ar ôl eu cwblhau, yn dod â buddion perygl llifogydd i bron i 450 o eiddo preswyl a mwy na 150 o fusnesau. Mae enghreifftiau o gynlluniau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys gwaith adfer cwlfertau yng Nghastellnewydd Emlyn, ailgynllunio ac adeiladu strwythur sgrîn sbwriel yn Dre-fach, a chynllun rheoli llifogydd yn naturiol yn Rhydaman, a sefydlodd gyfres o argaeau naturiol sy'n gollwng ac ardaloedd storio llifogydd.

Mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau wedi'u cwblhau ar ein tudalen we cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd sydd wedi'u cwblhau