Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd

Mae'r Cyngor wedi llunio Atodlen o Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (MACs) yn bennaf o ganlyniad i Bwyntiau Gweithredu yn deillio o Sesiynau Gwrandawiad yr Archwiliad. Mae angen y newidiadau hyn i wneud y Cynllun yn gadarn. Cytunwyd ar yr holl MACs gyda'r Arolygwyr.

Dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus ar y MACs ar 11 Mai a daeth i ben ar 26 Mehefin 2026. Roedd yr ymgynghoriad wedi'i gyfyngu i'r MACs, Adendwm Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Adendwm yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Ystyriwyd nad oedd unrhyw sylwadau a ddaeth i law mewn perthynas ag elfennau eraill o'r Cynllun wedi'u gwneud yn briodol.

Gweler y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (MACs) 

Beth nesaf?

Mae'r Cyngor wedi darparu adroddiad ymateb i'r ymgynghoriad ar gyfer y MACs (gan gynnwys copïau o'r sylwadau a wnaed yn briodol) i'r Arolygwyr. Mae copi o'r adroddiad hwn i'w  weld yma. Mae disgwyl y bydd adroddiad yr Arolygwyr Cynllunio yn cael ei dderbyn ddiwedd yr haf / dechrau'r hydref.