Iechyd, lles a hamdden
Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023
Mae Autism Wellbeing CIC yn fenter gymdeithasol ddielw yn Sir Gaerfyrddin. Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar y cyd â theuluoedd ac unigolion y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt.
Os oes gennych ymholiadau am unrhyw un o'n gwasanaethau, mae croeso i chi gysylltu â Rorie Fulton ar 07393 664 048 neu anfonwch neges e-bost at roriefultonaw@gmail.com. Mae Rorie yn y swyddfa ar ddydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener.
Mae gwasanaethau'n cynnwys:
- Cymorth dros y ffôn
- Cyrsiau hyfforddi ar-lein: Making Sense of Autism and Sensory Trauma: autism, sensory difference and the daily experience of fear
- Cwrs Ymwybyddiaeth Fewndderbyniol (ar-lein)
- Rhaglen i rieni, The Just Right State (ar-lein)
- Making Sense of Autism, cwrs dysgu dan arweiniad (ar-lein/dros y ffôn)
- Grŵp Cymorth gan Gyfoedion i Gyfoedion Ar-lein ar gyfer Oedolion Awtistig
- Grŵp Cymorth gan Gyfoedion i Gyfoedion Ar-lein ar gyfer Rhieni Plant Awtistig
- Therapi seicolegol i bobl awtistig (ar-lein)
- Therapi seicolegol i rieni ac i frodyr a chwiorydd (ar-lein)
- Llyfrgell Fenthyca, Cyfarpar Synhwyraidd
Mae Tîm Iechyd Ieuenctid Iechyd Da yn gweithio gyda phobl ifanc i helpu i gynnal eu hiechyd a'u lles.
Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os yw'r canlynol yn wir:
- rydych yn berson ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
- rydych rhwng 11 a 25 oed
- nid ydych mewn addysg orfodol
Rhif Ffôn: 01554 748085
Iechyd Da: Tîm Iechyd Ieuenctid, Coleg Sir Gar, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin, SA31 1NH
"Grŵp i famau (ac i dadau) plant awtistig sy'n byw yn Llanelli a'r cyffiniau. Dyma gyfle inni gwrdd ac i'n plant gael amser gwych"
Gwasanaeth Cyfeillio Ieuenctid MIND Llanelli ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed.
Os ydych yn teimlo eich bod wedi eich ynysu neu'n unig, mae un o'n cyfeillion gwirfoddol yma i helpu. Rydym yn rhoi'r cyfle i unigolion rannu unrhyw broblemau a dod ag ynysu cymdeithasol i ben.
Rhif Ffôn: 01554 776306
Cyfeiriad e-bost: befriending@llanelli-mind.org.uk
Mae gwirfoddolwyr gweithgar y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant awtistig a'u teuluoedd yn eu hardal leol.
Tudalen Facebook Cangen Sir Gaerfyrddin
Cyfeiriad E-bost: carmarthenshire.branch@nas.org.uk
Tîm Niwroddatblygiadol
Adeilad 1, Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin
SA31 3HB
Gwasanaeth Asesu Awtistiaeth, Gwasanaeth Niwroddatblygiadol
Rhif Ffôn: 01267 283077
Cyfeiriad e-bost: childasd.referrals@wales.nhs.uk
Mae Sandy Bear yn elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaeth i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed sydd wedi dioddef, neu sy'n debygol o ddioddef profedigaeth.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cefnogi dros filiwn o gyfleoedd ar lawr gwlad ar gyfer chwaraeon sy'n benodol i bobl anabl a chwaraeon cynhwysol bob blwyddyn.
Mae 170 o glybiau ledled y wlad wedi cyflawni Safon Rhuban Clwb Insport neu'n uwch, ac mae llawer mwy ar eu taith gydag Insport.
Cyfeirlyfr chwaraeon yn yr ardal i bobl ag anableddau
Gwefan Swyddogol Chwaraeon Anabledd Cymru
Cuppa a Sgwrs ar gyfer rhieni/gofalwyr, at Canolfan John Burns Centre.
Dyddiadau i ddod:
Ebrill 16 a 30, 2024
Mai 7 a 21, 2024
Mehefin 4 a 18, 2024
Gorffennaf 2 ac 16, 2024
E-bostiwch am fwy gwybodaeth: info-ajmartin12@gmail.com
Mwy ynghylch Cynnig Lleol