Iechyd, lles a hamdden

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/08/2023

Grŵp Cerdded, Siarad a Rhedeg Iechyd Meddwl Actif

Dydd Mawrth a Dydd Iau, 9:30am - 11:00am

  • Maes Hamdden Rhydaman 
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin
  • Canolfan Hamdden Llanelli

Gwybodaeth, adnoddau, hyfforddiant a chymorth. Yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru, gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.

 

Cysylltu Sir Gâr - Cymorth i gysylltu unrhyw bobl, cymunedau a sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin.


Mae Tîm Iechyd Ieuenctid Iechyd Da yn gweithio gyda phobl ifanc i helpu i gynnal eu hiechyd a'u lles.

Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth hwn os yw'r canlynol yn wir:

  • rydych yn berson ifanc sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro
  • rydych rhwng 11 a 25 oed
  • nid ydych mewn addysg orfodol

Rhif Ffôn: 01554 748085

Iechyd Da: Tîm Iechyd Ieuenctid, Coleg Sir Gar, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin, SA31 1NH

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn darparu asesiad diagnostig awtistiaeth i oedolion (weithiau ar y cyd â gwasanaethau eraill), cymorth a chyngor i oedolion awtistig, i rieni/gofalwyr, ac i weithwyr proffesiynol.  

Gall rhieni/gofalwyr gyfeirio'u hunain at y gwasanaeth. Os yw eich plentyn wedi cael diagnosis o awtistiaeth, byddwch yn gallu cael rhywfaint o hyfforddiant a chyngor gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Rhif Ffôn: 01267 283070

Cyfeiriad E-bost: westwalesias.hdd@wales.nhs.uk

Nod ein grwpiau cymorth gan gyfoedion i gyfoedion yw lleihau'r unigrwydd a'r arwahanrwydd y mae'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn sgil hunanladdiad yn ei deimlo, a darparu amgylchedd diogel lle gallant rannu eu profiadau a'u teimladau heb gael eu barnu.

LISS Listens

Rhif Ffôn: 07835 753042

Cyfeiriad E-bost: liss.listens@gmail.com

"Grŵp i famau (ac i dadau) plant awtistig sy'n byw yn Llanelli a'r cyffiniau. Dyma gyfle inni gwrdd ac i'n plant gael amser gwych" 

LLAMA (Llanelli Autism Mams Association) - Facebook

Gwasanaeth Cyfeillio Ieuenctid MIND Llanelli ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi eich ynysu neu'n unig, mae un o'n cyfeillion gwirfoddol yma i helpu. Rydym yn rhoi'r cyfle i unigolion rannu unrhyw broblemau a dod ag ynysu cymdeithasol i ben.

Rhif Ffôn: 01554 776306

Cyfeiriad E-bost: befriending@llanelli-mind.org.uk

Mae gwirfoddolwyr gweithgar y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth yn cynnig cymorth, gwybodaeth a gweithgareddau cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant awtistig a'u teuluoedd yn eu hardal leol.

Cangen Sir Gaerfyrddin

Tudalen Facebook Cangen Sir Gaerfyrddin

Cyfeiriad E-bostcarmarthenshire.branch@nas.org.uk

 

Mae Sandy Bear yn elusen gofrestredig sy'n darparu gwasanaeth i bob plentyn a pherson ifanc hyd at 18 oed sydd wedi dioddef, neu sy'n debygol o ddioddef profedigaeth.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn cefnogi dros filiwn o gyfleoedd ar lawr gwlad ar gyfer chwaraeon sy'n benodol i bobl anabl a chwaraeon cynhwysol bob blwyddyn.

Mae 170 o glybiau ledled y wlad wedi cyflawni Safon Rhuban Clwb Insport neu'n uwch, ac mae llawer mwy ar eu taith gydag Insport.

Cyfeirlyfr chwaraeon yn yr ardal i bobl ag anableddau

Gwefan Swyddogol Chwaraeon Anabledd Cymru

 

Cuppa a Sgwrs ar gyfer rhieni/gofalwyr, at Canolfan John Burns Centre.

Dyddiadau i ddod:

Ebrill 16 a 30, 2024

Mai 7 a 21, 2024

Mehefin 4 a 18, 2024

Gorffennaf 2 ac 16, 2024

E-bostiwch am fwy gwybodaeth: info-ajmartin12@gmail.com

Llwythwch mwy