Diogelu Iechyd y Cyhoedd

Mae iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo a diogelu iechyd a llesiant ein cymunedau yn ogystal â gweithio i atal salwch a chlefydau. Er bod llawer o gamau y gall unigolion eu cymryd i gynnal eu hiechyd eu hunain—megis mabwysiadu ffyrdd iach o fyw a gwneud dewisiadau gwybodus—mae rôl y Cyngor, ynghyd â sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill, yr un mor hanfodol. Mae'r rhain yn cynnwys monitro ffactorau amgylcheddol, rheoleiddio diogelwch bwyd, sicrhau dŵr glân, a rheoli lledaeniad clefydau heintus. Hefyd, mae diogelu iechyd y cyhoedd yn mynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd, fel tai, addysg, a mynediad at ofal iechyd, y gall pob un ohonynt effeithio ar iechyd unigolion a chymunedau.

Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd ymroddedig yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r tîm yn cynnwys:

  • Cydgysylltydd Diogelu Iechyd Cymunedol
    Uwch-nyrs Atal Heintiau Cymunedol Integredig 
    (Rôl ar y cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda)
    Swyddogion Cymorth a Chyngor Diogelu Iechyd 

Ar y cyd, mae'r tîm hwn yn gweithio'n agos gyda chymunedau lleol a darparwyr gofal i atal lledaeniad clefydau heintus, i amddiffyn poblogaethau agored i niwed, ac i greu amgylcheddau iachach i bawb.

Mae'r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â chartrefi gofal ledled y sir, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu rhedeg gan yr Awdurdod Lleol a chyfleusterau preifat sy'n cefnogi oedolion hŷn, pobl ag anableddau dysgu, anghenion iechyd meddwl, a chartrefi plant.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cefnogi cartrefi gofal o ran rheoli achosion o afiechydon anadlol acíwt a chlefydau trosglwyddadwy eraill mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Darparu hyfforddiant i wella arferion atal heintiau
  • Cynnal adolygiadau amgylcheddol i helpu cartrefi gofal i wella eu safonau yn barhaus

Os ydych chi'n berchen ar gartref gofal, yn rheoli neu'n gweithio mewn un, a bod angen cyngor neu gymorth arnoch o ran atal a rheoli heintiau, cysylltwch â ni:

📧IPCCAREHOME@sirgar.gov.uk 

Mae'r Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd yn mynychu digwyddiadau cyhoeddus, fforymau a grwpiau cymunedol yn rheolaidd i rannu negeseuon a chyngor ymarferol ynghylch iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau fel Heneiddio'n Dda a Byw'n Dda, lle mae'r tîm yn hyrwyddo pynciau allweddol fel arferion da o ran hylendid dwylo, arferion da o ran peswch, pwysigrwydd brechiadau i'r rhai sy'n gymwys, yfed digon o ddŵr i helpu i atal heintiau fel heintiau'r llwybr wrinol. Bob mis Hydref, mae'r tîm hefyd yn arwain cyfres o weithgareddau allgymorth cymunedol yn ystod yr Wythnos Atal Heintiau, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd atal lledaeniad heintiau ar draws cartrefi, lleoliadau gofal, a'r gymuned ehangach.