Pecyn Cymorth Seilwaith Gwyrdd a Glas o dan Arweiniad y Gymuned

Mae llawer o asedau o werth cymunedol yn cyfrannu at rwydwaith y Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) yn Sir Gaerfyrddin. Er eu bod yn ganolfannau pwysig ar gyfer llesiant cymdeithasol, mae safleoedd fel parciau cyhoeddus, mannau gwyrdd a chyfleusterau tyfu bwyd yn y gymuned hefyd yn helpu i fodloni anghenion a buddiannau'r genhedlaeth bresennol, yn ogystal â bod o fudd i'r amgylchedd, natur a'r economi er budd cenedlaethau'r dyfodol. Ceir cyswllt annatod rhwng asedau cymunedol a seilwaith gwyrdd a glas a datblygu cynaliadwy, a rhaid ystyried hynny wrth hyrwyddo egwyddorion creu lle.

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi trosolwg o’r ystyriaethau sydd eu hangen er mwyn i grwpiau cymunedol, sefydliadau trydydd sector a Chynghorau Tref a Chymuned fel ei gilydd gymryd rhan yn y broses o ddiogelu, rheoli a chreu SGG ar raddfa'r gymdogaeth. Fel pecyn cymorth, gellir defnyddio’r adnodd hwn fel man cychwyn i’r rhai sydd am ddarparu SGG o dan arweiniad y gymuned yn eu hardal leol. Ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel adnodd hollgynhwysol. Er bod yr adnodd hwn wedi canolbwyntio'n benodol ar ddarparu asedau SGG ar raddfa'r gymdogaeth, gall hefyd fod yn fuddiol i rai sy'n ceisio darparu asedau cymunedol yn fwy cyffredinol.

Mae dau sefydliad allweddol y cyfeirir atynt drwyddi draw, mae ganddynt nifer o adnoddau a gwasanaethau helaeth sy'n gysylltiedig â sefydlu mannau gwyrdd sy'n debygol o fod o gymorth mawr i'r rhai sy'n ceisio sefydlu man newydd:

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol

Y Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru

Y Cefndir

Mae SGG yn cyfeirio at y rhwydwaith o fannau gwyrdd a glas sydd ymhleth mewn ardaloedd trefol, lled-drefol a gwledig. Mae ganddo gryfderau sylweddol o ran lleihau heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol drwy wella'r defnydd o dir yn gynaliadwy a rheoli pwysau sy'n gwrthdaro'r naill a'r llall. Gall asedau SGG amrywio'n sylweddol ond gallant gynnwys gerddi, mannau chwarae, rhandiroedd, perllannau a gwrychoedd

Mae gan ymglymiad cymunedol ran hollbwysig yn llwyddiant asedau o'r fath. Mae'r llwyddiant hwnnw'n dibynnu ar ddealltwriaeth ac ar ddylunio'r asedau mewn modd sy'n bodloni anghenion y cymunedau y bwriedir iddynt eu cefnogi. Gall SGG o dan arweiniad y gymuned ddarparu nifer o fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys annog cymunedau i gymryd rhan yn y broses benderfynu; cydlyniant cymdeithasol, creu lleoedd, a gwarchodaeth cymunedol gryfach drwy wirfoddoli gweithgar.