Pecyn Cymorth Seilwaith Gwyrdd a Glas o dan Arweiniad y Gymuned

Cael Lle

Nodi a Sicrhau'r Safle

I rai, gall nodi a sicrhau'r safle fod ymhlith agweddau mwyaf heriol y prosiect. Fodd bynnag, i eraill mae'n bosib mai canfod safle a sbardunodd y syniad cychwynnol i'r prosiect.

Wrth chwilio am dir, bydd angen ichi ystyried i ddechrau a ydych yn ceisio ei brynu neu ei brydlesu. Ar ôl penderfynu ynghylch hyn, efallai y bydd y fuddiol ichi ofyn i'r gymuned gyfagos a ydynt yn gwybod am unrhyw dir a allai fod yn addas. Gallai hyn gynnwys siarad â thirfeddianwyr neu fusnesau lleol. Gallai hefyd fod yn fuddiol cysylltu â phrosiectau/sefydliadau eraill sy'n cynnal ymyriadau tebyg o fewn y sir, oherwydd gallent hwy fod yn ymwybodol o dir sydd ar gael.

Mae gan Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol adnoddau ar sut i ddod o hyd i dir.

Os ydych yn nodi safle ond heb wybod pwy sy'n berchen ar y tir, gallwch chwilio am wybodaeth tir ac eiddo.

Os ydych chi'n bwriadu defnyddio tir sy'n eiddo i'ch Cyngor Tref neu Gymuned lleol, byddai'n well cysylltu â'r Cyngor hwnnw i ddechrau i ganfod a fyddai ganddo ddiddordeb mewn gwerthu'r tir neu ei roi ar brydles. Sylwch y gall tir o'r fath fod yn destun cyfyngiadau, ac y gallai rheolau gyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud â'r tir, yn dibynnu ar y modd y cafodd ei sicrhau a'r amodau'n gysylltiedig â'r tir. Am dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Gaerfyrddin ewch at ein gwefan sydd â nifer o adnoddau gan gynnwys gwybodaeth ynghylch trosglwyddo asedau cymunedol.

Os byddwch yn canfod safle yr hoffech chi ei brydlesu, bydd angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn llofnodi'r math cywir o brydles, a'i bod yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol. Mae hyn yn bwysig am ei fod yn rhoi sicrwydd i chi ynghylch y defnydd o'r tir, ac yn rhoi sicrwydd i'r tirfeddiannwr ynghylch yr hyn sydd wedi'i gytuno. Gall fod yn fuddiol ceisio cyngor cyfreithiol. Am wybodaeth bellach ewch at Ganllaw Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol ar brydlesau.

Wrth chwilio am safle priodol, mae'n bwysig ystyried yr angen am gynllunio. Mae’n bosibl y bydd gan rai safleoedd gyfyngiadau sy’n atal adeiladu, felly bydd angen i chi feddwl yn ofalus am y safle a'r math o seilwaith efallai y byddwch am ei gynnwys yn gynnar yn y broses.

Cofrestru Tir fel Maes Tref neu Bentref

Nad oes gan Gymru ddynodiad ar gyfer Asedau o Werth Cymunedol.Fodd bynnag, mae peth tir yn gymwys i'w ddiogelu fel Maes Tref neu Bentref Gall cofrestri diogelu tir rhag cael ei ddatblygu, a chreu hawl i fynediad agored a hamdden.

Efallai y bydd ffioedd yn gysylltiedig â chofrestru tir comin. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer Swyddog Tir Comin Sir Gaerfyrddin ar ein gwefan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar gwblhau cais i gofrestri tir fel Meysydd Tref neu Bentref.

Mae gan y Gymdeithas Mannau Agored hefyd ganllaw cam wrth gam ar sut i benderfynu a yw lle yn gymwys i’w gofrestru a’r broses ymgeisio.