Pecyn Cymorth Seilwaith Gwyrdd a Glas o dan Arweiniad y Gymuned
Yn yr adran hon
- Dylunio Mannau Cymunedol
- Caniatâd Cynllunio
- Adnoddau a chefnogaeth
- Rhestr Wirio Gryn
Caniatâd Cynllunio
Ar ôl dechrau dylunio eich dyluniau a chael syniad o’r math o elfennau y gallech fod am eu cynnwys, bydd angen ichi gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio. Bydd yr angen am ganiatâd cynllunio neu beidio yn ddibynnol ar raddfa’r newidiadau, defnydd cyfredol y safle a lleoliad y prosiect.
Sylwch fod yr adran ganlynol wedi’i chreu i roi trosolwg o bolisi cynllunio ar adeg ysgrifennu’r pecyn hwn, ac nad yw’n hollgynhwysol. Gallai’r sefyllfa newid, a dylid gwirio hynny’n uniongyrchol â’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) neu weithiwr cynllunio proffesiynol.
Mae FFermydd a Gerddi Cymdeithasol wedi paratoi adnoddau ar y testun yma:
Mae enghreifftiau o ystyriaethau cynllunio posibl sy'n gysylltiedig ag asedau SGG:
Gellir ystyried siediau a strwythurau eraill megis toiledau compost, twneli polythen a thai gwydr yn ddatblygiadau y gellid bod angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Siaradwch yn uniongyrchol â'ch ACLl i gael gwybod a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y strwythur yr ydych yn bwriadu ei godi.
Os ydych chi'n bwriadu gosod tramwyfa neu fannau parcio ar y safle, efallai y bydd angen cael caniatâd cynllunio. Gall hyn dibynnu ar y deunydd a ddefnyddir, yn enwedig oherwydd gallai deunydd anathraidd fel tarmac amharu ar ddraeniad naturiol y safle.
Rhaid i ddatblygiadau penodol gyflwyno cais SDCau. Gellir ei gyflwyno gyda chais cynllunio neu ar wahân iddo, er na allwch dderbyn caniatâd cynllunio heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy priodol. Mae’r gofyniad yn sicrhau bod y datblygiad yn dangos cydymffurfiaeth â safonau SDCau o ran dylunio, adeiladu, gweithrediad a chynnal systemau draenio dŵr wyneb.
Ewch i wefan yr ACLl am ragor o wybodaeth am cheisiadau SDCau.
Nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ei bod hi'n annhebygol y bydd angen caniatâd cynllunio osod paneli solar ar dir annomestig. Fodd bynnag, mae'n rhaid bodloni rhai amodau. Gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth.
Bydd angen ichi wirio statws coed os ydych yn ystyried eu tocio neu eu torri, oherwydd gallent fod wedi'u diogelu gan orchmynion cadw coed. Yn ogystal, o dan Reoliadau Gwrychoedd 1997, mae'n anghyfreithlon dileu'r rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad (ac eithrio'r rhai sy'n ffurfio ffiniau gerddi) heb ganiatâd. Fe ddylech ddilyn y canllawiau isod neu gysylltu â'r ACLl os ydych chi'n ansicr.
Os ydych yn cyflwyno cais cynllunio, efallai y bydd gofyn i chi hefyd ddarparu arolygon amgylcheddol a datganiadau effaith amgylcheddol. Argymhellir eich bod yn ymgynghori â'ch awdurdod lleol i drafod y gofynion.
Er bod Canllawiau ar gyfer Cais Cynllunio ar gael ar-lein, efallai y byddai'n well siarad â gweithiwr cynllunio proffesiynol a all eich cynghori orau ynghylch a oes angen i chi gyflwyno cais cynllunio. Os ydych chi byth yn ansicr, argymhellir eich bod yn gwneud ymholiad i'ch SCLl. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth well i chi o'r ffactorau y mae angen i chi eu hystyried, a gall arbed amser ac arian.
Yn Sir Gaerfyrddin, gallwch gyflwyno ymholiadau cynllunio i:
planning@carmarthenshire.gov.uk neu;
planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk os yw eich safle yn byw o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yn dibynnu ar eich datblygiad arfaethedig, mae ACLlau hefyd yn cynnig Gwasanaeth Cyn-Ymgeisio a allai helpu i wneud cais o ansawdd sy'n gyflymach i'w brosesu. Gall ddarparu dealltwriaeth o'r cwestiynau a fydd yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar gais.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arweiniad cynllunio am ddim gan Gymorth Cynllunio Cymru sy'n cynnig cymorth i'r cyhoedd a grwpiau cymunedol. I benderfynu a ydych yn gymwys, ewch i'w gwefan sydd hefyd â nifer o adnoddau defnyddiol ar gyfer y rhai sy'n ceisio cael caniatâd cynllunio.
Mae Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth a chyngor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys cyngor cynllunio gan weithwyr proffesiynol cymwys profiadol a chymwys.