Marchnadoedd

Rydym yn cynnal marchnadoedd ledled y sir, sy'n cynnig dewis eang o gynnyrch gan werthwyr.  Mae'r marchnadoedd yn cynnwys cigyddion, gwerthwyr pysgod, cawsiau arbennig, delicatessens, caffis, ffrwythau a llysiau ffres, ffasiwn, hen bethau, siopau trin gwallt a llawer mwy. Mae'r ddwy farchnad dan do yng Nghaerfyrddin a Llanelli yng nghanol y trefi, ac mae'r ddwy yn cynnig cymysgedd o stondinau sy'n gwerthu nwyddau hen a newydd. Rydym hefyd yn cynnal marchnadoedd awyr agored yn wythnosol yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Llandeilo.

Rydym yn lansio menter newydd i gynnal cyfres o farchnadoedd stryd artisan misol yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Y nod yw cefnogi masnachwyr lleol a dathlu'r gorau mewn bwyd, crefftau a chynhyrchion lleol wedi'u gwneud â llaw.

 

Bydd y marchnadoedd yn cael eu gweithredu gan Green Top Markets, darparwr marchnadoedd stryd arbenigol yng Nghymru. Bydd Green Top yn darparu pabell fawr a gasebos i stondinwyr, yn cynnig cyngor arbenigol ar gyflwyno stondinau, ac yn cydlynu hyrwyddo trwy gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau cymdeithasol mewn partneriaeth â swyddogion y Cyngor.