Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn pennu cynigion a pholisïau ar gyfer y defnydd o'r holl dir yn y sir yn y dyfodol (ac eithrio'r rhan sydd wedi'i chynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) ac mae'n rhan o fframwaith y cynllun datblygu ar gyfer Cymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.

Dechreuodd y gwaith o baratoi'r CDLl Diwygiedig ym mis Ionawr 2018. Mae amserlen fanwl o'r broses o lunio'r Cynllun wedi'i nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori, Atodiad 1:  Carmarthenshire Local Development Plan (llyw.cymru)

Gallwch weld rhagor o fanylion am wahanol gamau paratoi'r Cynllun uchod drwy glicio ar y blychau glas.

 

Y Wybodaeth Ddiweddaraf: 27ain Mawrth 2025

Ar 31 Ionawr 2025, cyflwynodd yr Arolygwyr Cynllunio sy'n cynnal yr Archwiliad lythyr at y Cyngor yn cyfarwyddo'r gofyniad i ddod o hyd i safleoedd tai ychwanegol i'w nodi yn y CDLl Diwygiedig. Mae'r Cyngor wedi cynnal yr ymarfer hwnnw, ac rydym bellach yn cynnal ymgynghoriad ar y safleoedd ychwanegol hynny i gael sylwadau. Sylwch mai ar gyfer gwneud sylwadau ar y safleoedd ychwanegol, yr ISA a'r HRA yn unig yw'r ymgynghoriad. Bydd unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â safleoedd eraill yn cael ei hystyried fel gohebiaeth na wnaed yn briodol.

Safleoedd Ychwanegol

Gweler y ddogfen Ymgynghori Safleoedd Ychwanegol yma

Gweler y sylfaen dystiolaeth i'r safleoedd ychwanegol yma

Rydym hefyd yn ymgynghori ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACl) a'r Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (ARhC) sy'n ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y safleoedd ychwanegol.

Beth nesaf?

Dylid cyflwyno sylwadau ar-lein yn ddelfrydol gan ddefnyddio'r porth ymgynghori 'Dweud eich dweud' erbyn 4.30pm ar 15 Mai 2025.

Fel arall, mae ffurflenni cynrychiolaeth ar gael i'w lawrlwytho.