Adeiladu Maes Chwarae Amlddefnydd

Ymgeisydd y prosiect: Neuadd y Gât a'r Cylch

Teitl y prosiect: Adeiladu Maes Chwarae Amlddefnydd Neuadd y Gât – cam 2

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pen-y-groes

Cam olaf y prosiect fydd cwblhau'r Maes Chwarae Amlddefnydd gan ddarparu llawr atal sioc at bob defnydd. Bydd y llawr atal sioc yn cael ei orchuddio gan Sundeck Sport Comfort Grass.

Bydd y Maes Chwarae Amlddefnydd yn darparu arwyneb pob tywydd mawr ei angen i'r gymuned gan annog gweithgarwch corfforol ymysg oedolion a phlant.