Prosiect Ynni Adnewyddadwy

Ymgeisydd y prosiect: Padlwyr Llandysul

Teitl y prosiect: Prosiect Ynni Adnewyddadwy

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llandysul

Mae Padlwyr Llandysul wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae'n rhedeg 100% gan ddefnyddio pŵer adnewyddadwy. Bydd y prosiect solar hwn yn lleihau'r cyflenwad o'r grid 25%. Bydd y prosiect solar yn cael ei ychwanegu at un o'r prif adeiladau. Bydd storfa fatris hefyd yn cael ei gosod i storio pŵer solar ychwanegol a fydd yn cael ei ddefnyddio ar adegau prysur.