Adfywio Neuadd y Sgowtiaid

Ymgeisydd y prosiect: Grŵp Sgowtiaid 1af Llanelli

Teitl y prosiect: Adfywio Neuadd y Sgowtiaid

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanelli

Bydd y prosiect hwn yn mynd i'r afael â'r angen i wella Neuadd y Sgowtiaid yn sylweddol.

Mae'r adeilad dros 100 mlwydd oed ac wedi dirywio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd dim ond rhai rhannau o'r neuadd y gall y grŵp eu defnyddio oherwydd bod dŵr yn gollwng ac mae'r to'n anniogel.

Bydd y gwaith hanfodol hwn yn sicrhau y gall y neuadd barhau i gael ei defnyddio'n ddiogel gan y grŵp.