Clwb Rygbi Pont-iets Cyf

Ymgeisydd: Clwb Rygbi Pont-iets Cyf

Enw'r prosiect: Draenio Gwell o'r Prif Gae a Gosod Llifoleuadau LED Newydd

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pont-iets

Rhagor o wybodaeth: Bydd y prosiect hwn yn gwella'r draenio ar y cae rygbi. Rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu nifer y chwaraewyr yn uniongyrchol yn y timau mini ac iau. Mae'r clwb yn ganolbwynt canolog i'r pentref a dyna'r unig sefydliad ym Mhont-iets sy'n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol awyr agored i oedolion, plant a phobl ifanc.

Oherwydd oedran a chyflwr y llifoleuadau presennol, bydd goleuadau LED newydd yn cael eu gosod. Bydd y rhain yn galluogi'r clwb i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni.