Find Our Voice

Ymgeisydd y prosiect: People Speak Up

Teitl y prosiect: Find Our Voice

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanelli

Gan barhau â llwyddiant Sesiynau Man Cynnes Ar ôl Ysgol, bydd Find Our Voice yn cynnig hwb iechyd a llesiant a'r celfyddydau i bobl ifanc ddwy noson yr wythnos ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau.

Mae'r prosiect yn gwasanaethu pobl ifanc sy'n byw yn wardiau Llanelli sydd â'r lefelau uchaf o amddifadedd cymdeithasol ac adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gwahoddir artistiaid proffesiynol a hwyluswyr Iechyd i gefnogi eu llesiant, i greu ymwybyddiaeth o'u hamgylchedd, i gynyddu bioamrywiaeth mewn ardal drefol ac i wella cyfleoedd diwylliannol.