Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cilymaenllwyd

Teitl y prosiect: Adfer Llwybr Troed Cilymaenllwyd

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Cilymaenllwyd

Mae llawer o lwybrau troed (hawliau tramwy cyhoeddus) yng nghymuned Cilymaenllwyd sydd wedi'u rhwystro ac na ellir cerdded arnynt.

Mae eisoes gan y gymuned nifer dda o wirfoddolwyr sydd wedi dechrau clirio llawer o'r llwybrau troed, ond mae rhai o'r llwybrau troed wedi'u rhwystro cymaint fel ei bod yn amhosibl eu defnyddio ac mae angen offer priodol a chontractwr i'w clirio.

Ar ôl eu clirio, bydd y llwybrau troed hyn yn ailgysylltu'r cymunedau ac yn adfer seilwaith cerdded rhwng llawer o bentrefi.