Early in the Morning

Ymgeisydd y prosiect: Aspire2B

Teitl y prosiect: Early in the Morning’: Prosiect Treftadaeth Chwaraeon Digidol i Ysgolion

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin

Gan weithio ar y cyd â Chlwb Rygbi Athletig Caerfyrddin, bydd y prosiect hwn yn creu amgueddfa rithwir o'r radd flaenaf sy'n tynnu sylw at amgueddfa chwaraeon Clwb Rygbi Athletig Caerfyrddin. Bydd y casgliad yn cael ei gatalogio, a phlatfform treftadaeth digidol i ysgolion yn cael ei greu. Bydd gweithlu digidol o staff addysgu a staff llyfrgelloedd yn cael eu hyfforddi a'u huwchsgilio i arddangos yr amgueddfa chwaraeon mewn ysgolion. Mae gan y prosiect hwn y potensial i arddangos yr amgueddfa i gynulleidfa fyd-eang.