Datblygu Cyfleuster Cymunedol newydd

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Rygbi'r Tymbl

Teitl y prosiect: Datblygu Cyfleuster Cymunedol newydd – Dichonoldeb a Rheoli Prosiectau

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Tymbl

Mae Clwb Rygbi'r Tymbl mewn partneriaeth â chanolfan rygbi merched Merched Mynydd Mawr, Ysgol y Tymbl, Ysgol Llechyfedach a Chyngor Cymuned Llan-non yn bwriadu adeiladu cyfleuster cymunedol newydd i ategu at y ddarpariaeth bresennol ym Mharc y Mynydd Mawr a phentref y Tymbl. 

Bydd cyllid yn cael ei ddefnyddio i benodi tîm proffesiynol o arbenigwyr i oruchwylio datblygiad y prosiect. Bydd astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal a fydd yn caniatáu i'r gwaith pensaernïol, yr arolwg a'r gwaith cynllunio ac ymgynghori cysylltiedig gael ei wneud.