Rhaglen Llesiant Cymunedol

Ymgeisydd y prosiect: Baton Twirling Association Cymru

Teitl y prosiect: Rhaglen Llesiant Cymunedol

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Drefach

Er mwyn cefnogi llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol y gymuned, bydd y prosiect hwn yn creu campfa gymunedol yn y ganolfan. Bydd dosbarthiadau gweithgareddau ar gael a fydd yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, cyngor ar faeth, a choginio'n iach. Bydd hwb cymunedol yn cael ei greu sy'n cynnwys clybiau gwyliau ysgol a sesiynau chwarae i rieni a'u plant. Bydd rhaglen gynaliadwyedd yn cael ei datblygu, a bydd hyn yn cynnwys creu caffi atgyweirio, man ailgylchu dillad a chlwb eco.