Cynllun Adnewyddu Llifoleuadau 2023

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin

Teitl y prosiect: Cynllun Adnewyddu Llifoleuadau Clwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin 2023

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin

Bydd y prosiect hwn yn adnewyddu ac yn newid y llifoleuadau. Bydd llifoleuadau LED newydd yn cael eu gosod gan nad yw'r llifoleuadau presennol yn cwrdd â meini prawf Uwch Gynghrair Cymru. Yn sgil y prosiect, bydd modd sicrhau hyfforddiant parhaus, bodloni'r gofynion ar gyfer diwrnod gêm a darparu sylfaen gadarn i wella pêl-droed ym mhob grŵp oedran, clybiau pêl-droed lleol a chyfranogiad cymunedol.