Parc yr Esgob

Ymgeisydd y prosiect: Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn

Teitl y prosiect: Gardd Furiog Parc yr Esgob - Y Cam Datblygu

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Abergwili

Nod y prosiect hwn yw adfer a datblygu ei unig ardal hanesyddol allweddol sydd ar ôl, sef yr ardd furiog. Bydd y prosiect yn adfer yr ardd i gadw ac i warchod nodweddion hanesyddol sydd wedi goroesi.

Bydd y pwll dipio hanesyddol yn cael ei atgyweirio, rhwydwaith o lwybrau'n cael eu hailadeiladu, a gofod amlswyddogaethol yn cael ei greu er mwyn gallu darparu ystod o wasanaethau iechyd a llesiant, gwasanaethau addysgol a chymunedol a hyfforddiant yn seiliedig ar arddwriaeth, cynhyrchu bwyd, cadwraeth natur a rheoli digwyddiadau.