Canolfan Gymunedol yr Hendy

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Llanedi

Teitl y prosiect: Canolfan Gymunedol yr Hendy

Rhaglen Angor: Sustainable Communities

Lleoliad: Yr Hendy

Mae prosiect Canolfan Gymunedol yr Hendy yn cynnwys adnewyddu'r Clwb Criced segur. Bwriedir datblygu'r adeilad yn ganolfan gymunedol a fydd yn gweithredu fel Hwb, gan ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu a gwasanaethau i gymuned yr Hendy. Mae hwn yn brosiect mawr ei angen a hirddisgwyliedig i'r trigolion gan nad oes adeilad arall yn gwasanaethu pentref yr Hendy.