Gwelliannau i'r ardal chwarae i blant

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Llangynnwr

Teitl y prosiect: Gwelliannau i'r ardal chwarae i blant

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llangynnwr

Nod y prosiect hwn yw gwneud atgyweiriadau hanfodol i arwyneb chwarae'r ardal chwarae i blant bach ac atgyweirio, newid ac adnewyddu rhai cyfarpar. 

Yn ogystal, bydd system teledu cylch cyfyng yn cael ei gosod i gynorthwyo â'r gwaith o fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol a fandaliaeth.