Parc Grenig: Llwybr at Gynaliadwyedd a Llesiant

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Pêl-droed Cwmaman

Teitl y prosiect: Parc Grenig: Llwybr at Gynaliadwyedd a Llesiant

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Cwmaman

Bydd y prosiect hwn yn symud y clwb i'r lefel nesaf o ran cynaliadwyedd a llesiant. Mae gan y prosiect bedair elfen allweddol sy'n cynnwys gosod goleuadau LED i ddisodli'r llifoleuadau presennol, diweddaru'r ystafelloedd newid gyda phaneli solar a batri, datblygu cae bach i gefnogi gemau a hyfforddiant ychwanegol, a phlannu cant o goed y tu ôl i'r ddau brif gae i wella'r amgylchedd.