Capel Bethlehem Newydd Pwll Trap

Ymgeisydd: Capel Bethlehem Newydd Pwll-trap

Enw'r Prosiect: Tŷ Croeso, Bethlehem Newydd

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pwll-trap

Mae Capel Bethlehem newydd wedi trosi'r llawr gwaelod yn ganolfan i'r gymuned yn ddiweddar. Bydd y prosiect hwn yn helpu i brynu a gosod cegin ac offer newydd, dodrefn ar gyfer yr hwb. Mae arian hefyd ar gael ar gyfer penodi rheolwr llawn amser i hyrwyddo a threfnu'r defnydd o'r adeilad. Mae Capel Newydd Bethlehem yn ganolfan i gymuned Pwll-trap a'i hanghenion; yn benodol canolfan i hyrwyddo gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r defnydd o'r iaith yn y gymuned yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol, hamdden a llesiant.