Prosiect Hamdden a Chwarae Trimsaran

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Trimsaran

Teitl y prosiect: Prosiect Hamdden a Chwarae Trimsaran

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Trimsaran

Bydd y prosiect hwn yn datblygu'r tir o amgylch y Ganolfan Hamdden fel Llecyn Hamdden Cymunedol. Mae'r ardal wedi'i nodi fel un o'r pump mwyaf difreintiedig yn Sir Gaerfyrddin.

Y weledigaeth yw datblygu gofod amlbwrpas a fydd yn darparu ar gyfer pob oedran a gallu. Mae'r cynlluniau'n cynnwys gosod Maes Chwarae Amlddefnydd ac offer campfa awyr agored. Bydd y llecyn yn gwella cydnerthedd y gymuned.