CCAMA Cymdeithas Mamau Plant Awtistig Caerfyrddin a Cross Hands

Ymgeisydd: CCAMA Cymdeithas Mamau Plant Awtistig Caerfyrddin a Cross Hands

Enw'r Prosiect: Chwalu'r Rhwystrau i Deuluoedd sy'n Byw gydag Awtistiaeth

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Caerfyrddin a Cross Hands

Ar hyn o bryd nid oes rhwydwaith cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n byw gydag awtistiaeth yng Ngorllewin Sir Gaerfyrddin.

Bydd y prosiect hwn yn darparu cefnogaeth a chyfeillgarwch cymunedol i rieni a gofalwyr pobl ifanc sy'n byw gydag awtistiaeth. Bydd y cyllid yn galluogi teuluoedd i ryngweithio'n gadarnhaol ynghylch gweithgareddau amlsynhwyraidd a bydd ymweliadau â lleoliadau lleol yn cael eu trefnu. Bydd gweithwyr proffesiynol a staff arbenigol yn gallu rhannu gwybodaeth a chyfeirio at ddarpariaeth y gellir ei chyrchu.