Cynllun Gwella Chwarae Cymunedol

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Llangyndeyrn

Teitl y prosiect: Cynllun Gwella Chwarae Cymunedol

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Pont-iets

Bydd yr ardal chwarae bresennol ym mhentref Pont-iets yn cael ei gwella fel rhan o'r prosiect hwn.

Yn dilyn ymgynghori'n drylwyr â'r cyhoedd, bydd cyfarpar chwarae newydd (a fydd yn cynnwys ardal i blant bach ac ardal i blant hŷn) yn cael eu gosod.

Mae'r plant a'r bobl ifanc o ysgolion lleol wedi dewis eu deg cyfarpar chwarae gorau i'w datblygu yn y parc.