Gosod Trydan a Chaffi

Ymgeisydd y prosiect: Rheilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr

Teitl y prosiect: Gosod Trydan a Chaffi

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanelli

Bydd y prosiect hwn yn cysylltu safle Rheilffordd y Mynydd Mawr â chyflenwad trydan y Grid Cenedlaethol, a fydd wedyn yn golygu bod modd agor caffi ar y safle. Mae'r safle'n agos iawn at y llwybr beicio rhwng Llanelli a Cross Hands. Bydd y caffi'n denu llawer o bobl sy'n defnyddio'r llwybr beicio ac yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gwirfoddolwyr. Bydd dwy swydd ran-amser yn cael eu creu i redeg y caffi.