Yr Enfys Llanboidy

Ymgeisydd y prosiect: Cyngor Cymuned Llanboidy

Teitl y prosiect: Yr Enfys Llanboidy

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Llanboidy

Cafodd y prosiect hwn ei ddatblygu ar y cyd â'r trigolion lleol, a bydd ardal chwarae a hamdden yn cael ei datblygu yn y pentref ar gyfer oedolion a phlant.

Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth chwarae ar gael. Bydd cyfarpar chwarae'n cael ei osod a bydd ardal chwarae i blant bach ac ardal chwarae i blant iau ar wahân.