Llifoleuadau Clwb Rygbi Felin-foel

Ymgeisydd y prosiect: Clwb Rygbi Felin-foel

Teitl y prosiect: Llifoleuadau Clwb Rygbi Felin-foel

Rhaglen Angor: Cymunedau Cynaliadwy

Lleoliad: Felin-foel

Ar hyn o bryd mae Clwb Rygbi Felin-foel wedi gorfod diffodd eu llifoleuadau oherwydd pryderon ynghylch eu diogelwch. Mae hyn wedi effeithio ar lawer o bobl gan ei fod wedi atal plant ac oedolion rhag manteisio ar gyfleoedd hyfforddi yn eu hardal leol. Bydd y prosiect hwn yn gosod bylbiau LED a gwifrau trydanol newydd ar y llifoleuadau ar gaeau chwarae Brenin Siôr V.