Cerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/04/2024

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gynnal rhestr ddynodedig o gerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r rhestr hon yn gosod rhwymedigaethau ar yrwyr cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn o ran y canlynol:

  • Cludo'r teithiwr yn y gadair olwyn
  • Peidio â chodi unrhyw dâl ychwanegol am wneud hynny
  • Cario'r gadair olwyn os yw'r teithiwr yn dewis eistedd ar sedd i deithiwr
  • Cymryd camau yn ôl yr angen i sicrhau bod y teithiwr yn cael ei gludo'n ddiogel ac yn rhesymol gysurus a
  • Rhoi'r cymorth symudedd sy'n rhesymol ofynnol i'r teithiwr.

Diffinnir cymorth symudedd fel a ganlyn:

  • Galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd
  • Galluogi'r teithiwr i fynd i mewn ac allan o'r cerbyd mewn cadair olwyn os yw'n dymuno aros yn y gadair olwyn.
  • Llwytho bagiau'r teithiwr i'r cerbyd a'u tynnu o'r cerbyd
  • Llwytho'r gadair olwyn i'r cerbyd a'i thynnu o'r cerbyd os nad yw'r teithiwr yn dymuno aros yn y gadair olwyn.

Wrth archebu cerbyd sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, cynghorir y cyhoedd i wirio gyda'r cwmni bod modd i'r cerbyd gludo'r math hwnnw o gadair olwyn.

Lawrlwythwch restr o Gerbydau sy'n Hygyrch i Gadeiriau Olwyn