Ymgeisio am digwyddiadau yn canol tref

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Bydd angen i chi wneud cais am lythyr caniatâd gan y tîm Gofal Stryd os ydych am gynnal digwyddiad di-elw, anfasnachol a / neu elusennol yn y lleoliadau canlynol:

  • Stryd y Cei, Rhydaman
  • Sgwâr Nott a / neu Sgwâr Neuadd y Sir, Caerfyrddin
  • Stryd Stepney a / neu Stryd Vaughan, Llanelli.

Sut i ymgeisio 

I gwblhau'r ffurflen gais bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • Lleoliad
  • Pwrpas y digwyddiad 
  • Dyddiadau ac Amseroedd

Bydd yn cymryd ar lleuaf 14 diwrnod i brosesu eich cais.

Cyflwynwch eich cais wedi'i gwblhau yn E-bost i gofalstrydoedd@sirgar.gov.uk neu yn y post i : Adran Amgylchedd, Tim Gofal Strydoedd, Parc Myrddin, Teras Richmond, Caerfyrddin, SA31 1HQ

Amodau

Os cymeradwyir eich cais byddwch yn ddarostyngedig i'r amodau a restrir isod:

  • Bydd yr ymgeisydd yn indemnio ac yn cadw'r indemniad i'r Cyngor yn erbyn pob gofid, gweithred, achos, hawliad, galw, costau, iawndal a threuliau y gellir eu codi neu eu dwyn yn ei erbyn oherwydd unrhyw fater a wneir o dan y caniatâd.
  • Ni fydd yr indemniad a ddarperir gan y Polisi yn llai na £2,000,000 ar gyfer unrhyw un ddamwain neu unrhyw hawliad, heb gyfyngiad ar gyfer anaf personol neu farwolaeth. Efallai y bydd gofyn i'r ymgeisydd ddarparu prawf o'r yswiriant.
  • Rhaid sicrhau mynediad i gerbydau brys bob amser.
  • Yr ymgeisydd i gysylltu â'r gwasanaethau brys a busnesau lleol

Nodwch fod rhaid i chi hefyd gael unrhyw hawl, trwydded neu ganiatâd arall y gallai fod ei angen arnoch i gynnal eich digwyddiad yn gyfreithiol. Er enghraifft: os oes unrhyw fwyd i'w weini, byddwch yn gwerthu eitemau neu'n gwneud casgliadau elusennol bydd angen i chi sicrhau bod gennych y trwyddedau perthnasol.

Ymgesio am caniatad (.pdf)