Trwydded palis / ffens

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2023

Os ydych yn bwriadu gosod trwydded palis/ffens ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus, bydd angen trwydded arnoch gennym.

Fydd angen cwbwlhau ffurflen cais trwydded palis/ffens. Byddwch yn derbyn anfoneb am y ffioedd.

I wneud cais am drwydded balis/ffens, fydd angen:

  • Lleoliad y balis/ffens
  • Faint o amser rydych chi angen trwydded
  • Copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus y mae'n rhaid iddo fod o leiaf £10miliwn

Gellir cyflwyno'ch ffurflen gais wedi'i chwblhau trwy e-bost at streetcare@sirgar.gov.uk

lawrlwythwch ffurflen gais (.pdf)  Amodau'r Hawlen (.pdf)

Y ffi sy'n daladwy am wneud cais am drwydded balis/ffens yw £100 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025). 

Os bydd eich trwydded yn dod i ben, codir tâl adnewyddu o £177 y mis neu ran o hynny (yn ddilys tan 31 Mawrth 2025). 

Anfonebir yr holl anfonebau palis/ffens i'r contractwr bob mis.

Sylwch fod ein ffioedd trwydded yn destun adolygiad bob mis Ebrill a bydd trwyddedau a gyflwynir ar ôl 1 Ebrill yn ddarostyngedig i unrhyw ffioedd newydd.

Mae cais nad yw'n frys yn cymryd o leiaf 5 diwrnod gwaith i'w brosesu.

Gellir cyflwyno cais argyfwng os oes perygl i'r cyhoedd. Yn y sefyllfa hon, bydd angen i'ch contractwr gyflwyno'r ffurflen gais ac yna mynd i'r safle i ddechrau codi'r palis/ffens.